MANYLION.
  • Lleoliad: Monmouth,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Cyflog: Heb ei ddarparu
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 28 Mai, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd CA3 ar gyfer y Gymraeg

Cyngor Sir Fynwy
Hysbyseb Swydd
Diolch am eich diddordeb yn y swydd hon.
Rydym yn falch iawn o'n hysgol gynhwysol ac
uchelgeisiol, ac mae gennym ddisgwyliadau uchel tu
hwnt ar gyfer pob un o'n myfyrwyr. Rydym yn
ymfalchïo yn eu galluogi i dyfu ac i ffynnu. Er mwyn i
hynny ddigwydd, mae angen i'n myfyrwyr wneud
dau beth syml - gweithio'n galed a bod yn garedig.
Mae ein myfyrwyr a'n staff yn ffynnu mewn
cymuned lle mae cysondeb a'n harferion yn mynd
law yn llaw ag adnabod pob myfyriwr yn dda a'u
cefnogi i gyflawni eu potensial.
Mae gennym fudd adeilad ysgol gwych, sydd wedi
ennill gwobrau, a gafodd ei gwblhau'n ddiweddar
dan raglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae'n gyfleuster
modern gwych sydd ag addysg yn greiddiol iddo.
Mewn lleoliad yng nghanol Trefynwy, rydym yn
gwasanaethu ein cymuned leol yn ogystal ag
ardaloedd cyfagos yng Nghymru a hefyd yn Lloegr.
Mae gennym tua 1,700 o fyfyrwyr a 200 o staff, ac
mae mwy o alw nag o leoedd ar gael ym mhob grŵp
blwyddyn.
Rydym yn hollol benderfynol i ddarparu safon
rhagorol o addysg ar gyfer pob plentyn sy'n dod i'n
hysgol, fel eu bod yn cael cyfle i arwain bywydau
hapus a llwyddiannus. Mae ein hymagwedd at y
Cwricwlwm i Gymru wedi ei seilio ar bwysigrwydd
pynciau ac ar egwyddor gwybodaeth rymus. Mae ein
gwaith ar hyn yn destun astudiaeth achos ddiweddar
gan Estyn i rannu ein harfer yn ehangach. Mae ein
haddysgeg wedi ei seilio ar dystiolaeth ymchwil ar
ddysgu ac ar sut i gynyddu cynnydd myfyrwyr i'r
eithaf.
Rydym yn hollol gyfun ac yn darparu ar gyfer ystod
eang o anghenion dysgu. Ar hyn o bryd mae 14% o
boblogaeth yr ysgol ar y Gofrestr Anghenion Dysgu
Ychwanegol. Mae gennym hefyd Ganolfan
Adnoddau Arbenigol integredig, sydd hefyd yn
destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn am ei
darpariaeth eithriadol o gryf. Daw myfyrwyr o ystod
eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a'r
cyfartaledd treigl ar gyfer prydau ysgol am ddim yw
13.8%.
Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr y mae eu
nodweddion a gwerthoedd personol yn
adlewyrchu'r rhai yn y fanyleb person, ac y mae eu
profiadau hefyd yn eu rhoi mewn sefyllfa gryf i
gyflawni'r disgrifiad swydd. Caiff rhaglen gynefino
lawn a dysgu proffesiynol ystyrlon eu cynnig i'r holl
staff.
Byddwch yn ein cael yn grŵp o gydweithwyr
cefnogol sy'n gweithio i ddarparu safon eithriadol o
addysg ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn ein gofal.
Ymfalchïwn yn fawr yn yr hyn a wnawn, a rydym yn
parhau i fod yn uchelgeisiol iawn am yr hyn y gallwn
ei gyflawni gyda'n gilydd yn y dyfodol.
Edrychaf ymlaen at dderbyn eich cais, pe dymunech
ymgeisio.
Dymuniadau gorau

Post Manylion
CYFLOG - GWYBODAETH BWYSIG: Byddai'r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):

Lleoliad: Monmouth Comprehensive School, NP25 3YT, United Kingdom. Gall hyn newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni fyddir yn alu treuliau adleoli neu darfu os yw hyn yn digwydd.

Yn ystod y Tymor yn unig - Wythnos y Flwyddyn (os yn berthnasol):

GWIRIAD GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD:
Bydd apwyntiad i'r rôl hon wedi ei eithrio o'r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac yn amodol ar y gwiriad canlynol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Enhanced with Children Barred List Check

ASESIAD O'R GYMRAEG: Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Cyswllt Recriwtio: Os ydych angen mwy o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â: HUGO HUTCHISON / hugohutchinson@monmouthshire.gov.uk