MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Cybi,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP per Year
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 33731.00 - 51942.00 GBP per Year
Gweithio i Gyngor Sir Ynys MônMae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Cyflawni dyletswyddau proffesiynol athro fel sy'n ofynnol gan y safonau proffesiynol ar gyfer athrawon yn ôl yr amgylchiadau ac yn unol â pholisïau'r ysgol o dan gyfarwyddyd y Pennaeth. Bod yn gyfrifol am ddysgu a chyflawniad disgyblion a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
Yn ychwanegol at swydd ddisgrifiad athro/awes ddosbarth bydd disgwyl bod 'Athrawon Arweiniol Adrannau' yn cyflawni'r dyletswyddau canlynol;
(1) Cyfrifoldeb pennaf am sicrhau'r safonau dysgu ac addysgu uchaf posibl ym mhob adran, yn unol â gweledigaeth y Corff Llywodraethol.
(2) Cynnal a cefnogi athrawon yr adran.
(3) Cam ar drefn gwyno ysgol gyfan, os nad yw athro/awes yn medru bodloni neu gynnig datrysiad.
(4) Fel 'Arweinwyr Canol', cefnogi'r Uwch Dim Rheoli yn eu gwaith dydd i ddydd.
(5) Fel aelod o'r 'Tîm Rheoli', cyfranogi'n sylweddol tuag at gyfeiriad strategol yr ysgol.
(6) Gweithredu fel athrawon dosbarth effeithiol
(7) Arwain y cydweithio a gyrru datblygiadau fel aelod o'r 'Tîm Cydlynu Pwnc/Maes' pan ystyrir hynny angenrheidiol.
Amlinellir dyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Oriau: Llawn amser
Graddfa: Rhedfa Tal Athrawon (£33,731 - £51,942 y flwyddyn) + Lwfans CAD2c (£3,590 y flwyddyn)
Dyddiad cychwyn: 01/09/2026
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a'r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mr Owain Roberts
Rhif ff ô n: 01407 883 150
Cyfeiriad e-bost: 6603036_pennaeth.cybi@hwbcymru.net
Ffurflenni cais i'w dychwelyd i: Ysgol Cybi, Ffordd Garreglwyd, Caergybi, Ynys Môn, LL65 1NP
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 06 Chwefror 2026