MANYLION.
  • Lleoliad: Ysgol Godre'r Berwyn, Bala,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 3 - Ysgol Godre'r Berwyn, Y Bala

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG


YSGOLION DILYNOL


YSGOL GODRE'R BERWYN

(Cyfun 3 - 18: 578 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib

CYMHORTHYDD CYFLENWI DYSGU LEFEL 3

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion uwchradd o fantais, ond nid yw hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£18,430 - £19,643 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre'r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259)

e-bost: iwan.jones@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 12 CHWEFROR, 2026.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma yn yr wythnos yn cychwyn 26ain o Ionawr, 2026.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD

CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU
  • Sgiliau rhifedd/llythrennedd da iawn
  • NVQ3 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, e.e. Braille Lefel 2,
  • BTEC Lleferydd ac Iaith, BSL Lefel 2.
  • Hyfforddiant yn y strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd neu feysydd clyw penodol, iaith arwyddo, dyslecsia, TGaCh, Mathemateg a Saesneg.

GWYBODAETH A SGILIAU
  • Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithiol i gefnogi dysgu
  • Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau/codau ymarfer perthnasol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Gwybodaeth weithio o'r cyfnod sylfaen, cwricwlwm cenedlaethol, llwybrau 14-19 a rhaglenni/strategaethau dysgu perthnasol eraill fel y bo'n briodol.
  • Deall egwyddorion datblygiad plentyn a phrosesau dysgu.
  • Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rhain.
  • Bod â'r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a'r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
  • Deall a gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.

PROFIAD
  • Profiad o weithio gyda phlant o'r oed perthnasol.

NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
  • Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at waith.
  • Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg

ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd

Gweithio o dan arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol o fewn cyfundrefn gytøn o oruchwyliaeth.

Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu. Gallai hyn gynnwys y rhai sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol.

Cyfrannu at gylch cynllunio'r athro er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i ddysgu.

Goruchwylio dosbarthiadau cyfan yn ystod absenoldeb tymor byr yr athro/athrawes. Prif ffocws cyflenwi o'r fath fydd ymateb i gwestiynau, cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â gweithgareddau a osodwyd, aros ar dâsg a chynnal trefn.

1 Cefnogaeth i Ddisgyblion

1.1 Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi disgyblion.

1.2 Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda'r disgyblion ac ennyn disgwyliadau uchel.

1.3 Hybu cynhwysiad a derbyniad pob disgybl o fewn y dosbarth.

1.4 Rhoi sylw i anghenion personol disgyblion a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.

1.5 Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau polisïau yr AALL ac ysgolion.

1.6 Cefnogi disgyblion yn gyson gan adnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.

1.7 Annog disgyblion i ryngweithio a chydweithio gydag eraill.

1.8 Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.

1.9 Darparu adborth effeithlon i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad, yn cynnwys ymddygiad a phresenoldeb.

1.10 Gweithredu fel Anogwr Dysgu yn yr ysgol

2 Goruchwyliwr / Goruchwylwraig Gyflenwi

2.1 Arolygu arholiadau mewnol ac allanol fel bo'r gofyn.

Cefnogaeth i ddisgyblion wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb yr athro/athrawes

2.2 Cofrestru a chofnodi presenoldeb dysgwyr mewn gwersi.

2.3 Cyfarwyddo dysgwyr ynghylch y gwaith a adawyd gan eu hathro/hathrawes.

2.4 Darparu'r adnoddau angenrheidiol i'r myfyrwyr ar gyfer eu dysgu.

2.5 Sicrhau bod dysgwyr yn mynd i mewn ac allan o'r dosbarthiadau yn drefnus.

2.6 Creu amgylchedd tawel a phwrpasol lle gall disgyblion gwblhau gwaith a osodwyd gan yr athro dosbarth.

2.7 Dilyn cyfundrefnau a gweithdrefnau ysgol ar reoli ymddygiad.

2.8 Rheoli adnoddau'n effeithlon a sicrhau y gadewir dosbarthiadau'n daclus ac yn barod ar gyfer y wers nesaf.

2.9 Casglu unrhyw waith a gwblhawyd ar ôl y wers a'i ddychwelyd i'r athro priodol.

2.10 Cysylltu â'r athro/athrawes mewn perthynas â gwaith cyflenwi.

3 Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes

3.1 Gweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chynhaliol.

3.2 Gweithio gyda'r athro/athrawes i gynllunio gwersi, gwerthuso ac addasu gwersi/cynlluniau gwaith fel y bo'n briodol.

3.3 Monitro a gwerthuso ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw.

3.4 Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. gweinyddu gwaith cwrs, cynhyrchu taflenni gwaith at gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.

3.5 Darparu adborth lafar ac ysgrifenedig i'r athro/athrawes ar gynnydd a chyflawniad disgyblion.

3.6 Fel y cytunwyd gyda'r athro/athrawes, bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion. Cyfrannu at arolwg o gyfundrefnau cadw cofnodion yr ysgol fel bo'r gofyn.

  • Cefnogaeth i'r Cwricwlwm

  • 4.1 Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.

    4.2 Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh.

    4.3 Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.

    4.4 Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion wrth ei ddefnyddio.

    4.5 Cynorthwyo disgyblion i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.

    4.6 Pennu'r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a'u cynnal a'u cadw.

    4.7 Cefnogaeth i'r Cwricwlwm wrth oruchwylio dosbarthiadau yn absenoldeb athro/athrawes.

    4.8 Casglu banc o waith goruchwylio mewn cysylltiad ag aelodau perthnasol y staff addysgu.

  • Cefnogaeth i'r Ysgol

  • 5.1 Bod yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau perthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd ac amddiffyn data, a chydymffurfio â hwy, gan adrodd am bob pryder wrth y person priodol. Dylai hyn hefyd, ar gyfer goruchwylwyr cyflenwi, gynnwys rheoli ymddygiad.

    5.2 Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.

    5.3 Sefydlu perthynas bwrpasol a chyfathrebu gydag asiantaethau/proffesiynolwyr eraill, mewn cysylltiad â'r athro/athrawes, i gefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.

    5.4 Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chyfranogi ynddynt.

    5.5 Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.

    5.6 Adnabod cryfderau a meysydd arbenigedd personol a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.

    5.7 Darparu arweiniad a goruchwyliaeth priodol a chynorthwyo yn hyfforddiant a datblygiad staff cynhaliol eraill fel y bo'n briodol.

    5.8 Ymgymryd â goruchwylio cynlluniedig o weithgareddau dysgu'r disgyblion y tu allan i oriau ysgol.

    5.9 Goruchwylio'r disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol.

    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi