MANYLION.
  • Lleoliad: Penybont Primary,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £4,943 per annum
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Goruchwylio - Ysgol Gynradd Penybont

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £4,943 per annum

8.75 awr yr wythnos

Amser Tymor

Mae Ysgol Gynradd Pen-y-bont am benodi dau Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio, rhwng 11.30am ac 1.15pm bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus oruchwylio'r plant yn y neuaddau bwyta a rhannau eraill o'r ysgol a goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Mae profiad o weithio gyda phlant yn hanfodol, a byddai'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 11 Chwefror 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Chwefror 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 24 Chwefror 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person