MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £18.44 - £20.00 yr awr, sy'n cynnyws hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Dysgu yn y Gweithle Sgiliau Byw’n Annibynnol, Dros Dro hyd at 30 Mehefin 2026

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £18.44 - £20.00 yr awr, sy'n cynnyws hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Pwrpas y swydd

Yn atebol i'r Rheolwr Maes Rhaglen bydd yr Aseswr yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau neu anawsterau dysgu ac/neu awtistiaeth i ddatblygu y sgiliau, profiad a'r cymwysterau sydd eu hangen i'w galluogi i symud i gyflogaeth gyda thâl.

Mae'r swydd yn golygu gweithio gyda dysgwyr yn bennaf yn y gweithle gan sicrhau bod yr hyfforddiant a'r asesu o'r safon uchaf yn gyson. Rôl aseswr yw arsylwi ar brentisiaid yn cyflawni ystod o swyddi yn y gweithle a sicrhau bod y gwaith a wneir yn cyfarfod gyda safonau diwydiannol/proffesiynol. Mae llwyddiant y rhaglen dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at ganran uchel o'r dysgwyr yn cael gwaith cyflogedig.

Drwy gytundeb gyda'r Rheolwr Maes Rhaglen gellir gofyn i'r Aseswr ddarparu hyfforddiant a chyfarwyddyd i grwpiau o ddysgwyr sy'n cyflawni gweithgareddau ymarferol yn ogystal ag asesu eu gwaith ymarferol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/125/26

Cyflog
£18.44 - £20.00 yr awr, sy'n cynnyws hawl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau
  • Yn y gymuned

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 28 diwrnod (yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor) sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
5.5 awr yr wythnos

31 wythnos y flwyddyn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
09 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)