MANYLION.
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: L17 £78,116 - L23 £90,509
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Tavernspite a Templeton

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: L17 £78,116 - L23 £90,509

Rhoi'r addysg orau posibl i'n dysgwyr!

Pennaeth

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2026

ISR:L17-L23

Contract: Amser llawn (parhaol)

Nifer ar y gofrestr: 329 FTE

Dyddiad cau: 6 Chwefror 2026

Oherwydd ymddeoliad y pennaeth presennol sydd ar ddod, gwahoddir ceisiadau am swydd pennaeth ffederasiwn ysgolion Tafarn-sbeit a Thredeml. Mae gan y ffederasiwn enw da rhagorol yn lleol ac yn genedlaethol am safonau a lles disgyblion ardderchog, fel y dangosir yn adroddiad diweddar Estyn.

Gan wasanaethu cymunedau Tafarn-sbeit, Tredeml a thu hwnt, mae ein ffederasiwn yn cynnig cyfle cyffrous i arwain dwy ysgol gynradd ragorol gyda chyfanswm o 329 o ddisgyblion, sef 206 yn Ysgol Tafarn-sbeit a 123 yn Ysgol Tredeml.

Bydd gofyn i'r pennaeth rannu ei amser rhwng y ddwy ysgol wrth gynnal gweledigaeth a dull ysgol gyfan wrth gyflawni'r rôl. Byddwch yn arwain tîm uwch-reolwyr cryf sy'n cefnogi'r gwaith o reoli'r ddau safle ysgol o ddydd i ddydd, ynghyd ag athrawon rhagorol ac ymroddedig sy'n cael eu cefnogi gan dîm ehangach o gynorthwywyr cymorth dysgu a staff ategol eraill sydd yr un mor frwdfrydig.

Hoffai llywodraethwyr, staff a disgyblion glywed oddi wrthych os ydych:
  • yn angerddol am addysg ac yn meddu ar brofiad sylweddol fel uwch-arweinydd mewn lleoliad ysgol gynradd
  • yn gallu ysbrydoli, ysgogi a herio disgyblion a staff ac ennyn eu parch
  • yn gallu dangos dealltwriaeth ragorol o'r Cwricwlwm i Gymru, ei ofynion, a sut y byddwch yn ei weithredu'n llwyddiannus ledled y ffederasiwn
  • wedi ymrwymo i wella safonau uchel yn barhaus ac ethos cynhwysol
  • yn gallu meithrin amgylchedd dysgu sy'n darparu addysg gynradd o'r radd flaenaf ac sy'n annog disgyblion i fod yn uchelgeisiol yn eu hagwedd
  • yn gallu darparu amgylchedd lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus, awyddus a brwdfrydig i ddysgu a lle rheolir unrhyw ymddygiad heriol yn fedrus ac yn sensitif
  • yn gallu bod yn gatalydd angerddol dros y Gymraeg a'i defnydd ehangach ledled yr ysgol
  • yn cydnabod a chefnogi darpariaeth cerddoriaeth a'r celfyddydau mynegiannol ledled yr ysgol fel offeryn ar gyfer dysgu
  • yn cofleidio cynhwysiant a chydraddoldeb o fewn chwaraeon
  • yn gweithio gyda'r corff llywodraethu i feithrin ymdeimlad o gymuned, gan ymgysylltu â rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid cymunedol trydydd parti, gan gynnwys ysgolion eraill o fewn clwstwr Greenhill
Mae'r ysgol yn cynnig y canlynol i chi:
  • plant hapus a brwdfrydig sy'n llawn cymhelliant
  • tîm o staff sefydledig ac ymroddgar
  • corff llywodraethu cefnogol ac ymroddedig
  • ethos gofalgar
  • cymorth ar gyfer eich datblygiad proffesiynol eich hun
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ysgolion, cysylltwch â'r Ymgynghorydd Gwella Ysgolion, Damon McGarvie: mcgarvied@hwbcymru.net

Byddem yn croesawu ceisiadau gan uwch-arweinwyr profiadol sy'n gyffrous am y cyfle y mae'l hon yn ei gynnig, i arddangos eich talentau a'ch penderfyniad i arwain y ffederasiwn hwn ar ran nesaf ei daith.

Dyddiad cau: 5 Chwefror 2026

Dyddiad llunio'r rhestr fer: 9 Chwefror 2026

Dyddiadau cyfweliadau: 12 a 13 Mawrth 2026

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch âr Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.