MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro\/Athrawes Cyfnod Sylfaen Dros Dro - Ysgol Glan Morfa
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
YSGOL GLAN MORFAFfordd Y Morfa, Abergele LL22 7NU
Ffôn: 01745 832922
ebost: pennaeth@glanmorfa.conwy.sch.uk
Pennaeth: Mr Hugh Rhys-Williams
Yn eisiau erbyn 23ain Chwefror 2026
ATHRO/ATHRAWES CYFNOD SYLFAEN
Cytundeb dros gyfnod mamolaeth - rhagwelir hyd Mehefin 2026
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Oriau: Llawn Amser
Mae Llywodraethwyr Ysgol Glan Morfa yn awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig, egnïol ac effeithiol ar gyfer swydd yn y Cyfnod Sylfaen. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol hapus a llwyddiannus, sydd â thîm gweithgar a chefnogol o staff, a disgyblion brwdfrydig a chyfeillgar.
Bydd yr ymgeiswydd llwyddiannus:
• yn llawn cymhelliant.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a chyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch âr Pennaeth ar 01745 832922
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English