MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £13,166 - £20,351 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg 0.3910

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £13,166 - £20,351 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau

Mae Adran Adeiladwaith a Pheirianneg Coleg Meirion- Dwyfor yn adran flaengar sy'n cynnig cyrsiau mewn ystod o ddisgyblaethau. Mae addysgu a dysgu yn digwydd gyda mynediad at offer safonol y diwydiant ac mewn cyfleusterau modern. O fewn yr adran, mae gennym ddau safle; Hafan (Pwllheli) a CaMDA (Dolgellau), sydd ill dau yn darparu cymwysterau Peirianneg.

Rydym yn chwilio am aelod o staff rhan amser parhaol (cyfwerth â dau ddiwrnod yr wythnos) i ymuno ag ochr Beirianneg yr adran; a rydym yn barod i gyflogi unigolyn brwdfrydig sydd â phrofiad mewn meysydd cysylltiedig â Pheirianneg Cyffredinol ac Weldio a Ffabrigio Metel. Ar hyn o bryd mae gennym ni ddarlithwyr peirianneg fecanyddol, peirianneg cynhyrchu, peiriannu a weldio rhagorol, a rydym yn edrych am aelod o staff fydd yn ategu at hyn. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno safonau uchel o addysgu a dysgu a rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad parhaus i fyfyrwyr sy'n hyrwyddo llwyddiant. Hoffem weithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau i gynnig y profiad gorau i ddysgwyr, ac i helpu i symud yr adran yn ei blaen.

Disgwyliadau allweddol y rôl:

1. Addysgu i safon uchel er mwyn creu cyfleoedd dysgu effeithiol ac er mwyn galluogi'r holl ddysgwyr i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

2. Darparu profiadau allgyrsiol rhagorol i'n dysgwyr.

3. Cynnal safonau uchel y ddarpariaeth â'r gefnogaeth a roddir i'r dysgwyr.

4. Sichrau bod polisiau a gweithdrefnau'r Grŵp yn cael ei dilyn.

5. Cefnogi dysgwyr i lwyddo er mwyn cyflawni eu targedau neu uwch gan herio ac ymestyn ein dysgwyr.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/120/26

Cyflog
£13,166 - £20,351 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau

Hawl gwyliau
• 46 diwrnod o wyliau yn flynyddol

• Pob gwyliau cyhoeddus a arsylwir fel arfer, yn cael eu pennu'n flynyddol.

• Hyd at 5 diwrnod o ddiwrnodau cau effeithlonrwydd y flwyddyn, a bennir yn flynyddol.

• Bydd contractau rhan amser yn derbyn hawl pro rata i'r uchod.

Patrwm gweithio
14.5 awr yr wythnos

327 awr o amser addysgu blynyddol - 9.5 i 10.5 awr yr wythnos.

Hyd at 2 awr yr wythnos o weithio oddi ar safle gyda chytundeb y rheolwr.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
05 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)