MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bangor,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £18.44-£20.00 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Gofal Plant, Plant a Phobl Ifanc, Cytundeb Cyfnod pendol hyd at 31 Awst 2026
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £18.44-£20.00 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Pwrpas y swyddMae'r adran gofal plant yn cynnig ystod o gymwysterau sef gofal plant, plant a phobl ifanc, cynorthwyydd addysgu a hefyd mewn gwaith chwarae. Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gyfer cymhwyster plant a phobl ifanc.
Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.
Bydd disgwyl i'r aseswr recriwtio, cefnogi ac annog gweithgareddau marchnata yn unol â maes y Rhaglen, ac ymgysylltu â digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr ar gyfer amrywiaeth o gymwysterau mewn Gofal Plant, Cynorthwywyr Addysgu, Plant a Phobl ifanc a Gwaith Chwarae a chefnogi cyd-aseswyr. Mae'n rhaid i'r aseswr gefnogi a monitro cynnydd y dysgwyr a chwblhau'n amserol, a mynychu cyfarfodydd Maes Rhaglen a safoni.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau.
Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.
Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr Gofal Plant Busnes@GLLM a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt. Byddai'r gallu i addysgu grwpiau bach mewn sesiynau gweithdy ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid, y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol yn fanteisiol. Bydd yr asesydd yn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir i'r dysgwyr:
- O'r ansawdd uchaf posibl
- Yn darparu gwerth am arian
- Yn diwallu anghenion y cyflogwr ac anghenion y myfyrwyr sy'n derbyn hyfforddiant
- Yn adlewyrchu cenhadaeth, gwerthoedd ac amcanion y coleg
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/119/26
Cyflog
£18.44-£20.00 yr awr, sy'n cynnwys hawl gwyliau. Yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Dolgellau
- Gweithio gartref
- Llanelwy
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod
Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
22.5 awr yr wythnos (Patrwm gwaith i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus)
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
05 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)