MANYLION.
  • Lleoliad: Dolgellau,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £21,262 - £21,668 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Chwefror, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Gweinyddol 0.8108

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £21,262 - £21,668 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae'r rôl hon o fewn yr adran Busnes, Celfyddydau, Chwaraeon, Gofal a TG yng Ngholeg Meirion Dwyfor gyda chyrsiau'n cael eu cyflwyno ar gampysau Pwllheli a Dolgellau.

Dyma gyfle gwych i ymuno â'n tîm llwyddiannus, deinamig a chefnogol a bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gwasanaeth gweinyddol i'r adran. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli naill ai ar gampws Pwllheli neu Ddolgellau ond bydd gofyn iddynt deithio i'r campws arall pan fo angen i gynorthwyo gydag amrywiol weithgareddau megis cyfarfodydd Adrannol, nosweithiau Rhieni, nosweithiau Agored a digwyddiadau eraill.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CMD/112/26

Cyflog
£21,262 - £21,668 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Dolgellau
  • Pwllheli

Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (1 Medi i 31 Awst).

Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.

Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod wedi cau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Bydd gan y rhai ar gontractau rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.

Patrwm gweithio
30 awr yr wythnos - patrwm gwaith i'w gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol

Dyddiad cau
02 Chwef 2026
12:00 YH(Ganol dydd)