MANYLION.
  • Lleoliad: Newtown,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Dafydd Llwyd)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Dafydd Llwyd)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Gair
gan
y
Pennaeth

Ein
Gweledigaeth

Law yn Llaw , Anelwn yn Uchel

Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo'r weledigaeth y dylai plant a staff 'Anelu'n Uchel' ym mhob peth y maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym fel ysgol am adeiladu ar sylfaen gadarn y gorffennol, i ddatblygu'r presennol ac i anelu at ddyfodol llwyddiannus.

Rydym yn creu a darparu cwricwlwm creadigol, cyflawn a deinamig sydd yn ysbrydoli, tanio a chyffroi pob dysgwr. Yn ganolog i deulu'r ysgol bydd meithrin hunaniaeth a balchder tuag at ein hiaith a'n hetifeddiaeth a hynny mewn modd angerddol.

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi ymarferydd rhagorol i ymuno â thîm cefnogol, brwdfrydig a chydwybodol yr ysgol, fel Dirprwy Bennaeth parhaol.

Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol gyda mi fel pennaeth. Cysylltwch drwy anfon ebost at pennaeth@dafyddllwyd.powys.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol ar 01686 622162.

Dyddiad
cau
ar
gyfer
ceisiadau
: 26ain o Ionawr 2026

Dyddiad
llunio
rhestr
fer: 27ain o Ionawr 2026

Dyddiad
cyfweliad
: 10fed o Chwefror 2026

Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd.

Yn gywir,

Mr Darryn Green