MANYLION.
  • Lleoliad: Lampeter,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 25,185 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Bro Pedr

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 25,185 *

Ynglŷn â'r rôl
Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Cefnogi dysgwr â nam ar y golwg ynghyd â unrhyw ddisgybl arall sydd angen mynediad at gefnogaeth.

Atebol i: Athro/Athrawes y Dosbarth, Cydlynydd ADY, Tîm Arweinyddiaeth Uwch.

Lleoliad: Ar draws 3-19.

Hysbysebir y swydd hon fel contract tymor penodol, yn dod i ben ar 31 Awst 2026.

Darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i blentyn neu berson ifanc â nam ar y golwg, gan sicrhau mynediad llawn at ddysgu, hyrwyddo annibyniaeth, a chefnogi eu datblygiad addysgol, cymdeithasol ac emosiynol yn y dosbarth ac ym mhob rhan o'r ysgol.
  • Darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion unigol y dysgwr â nam ar y golwg.
  • Addasu a newid deunyddiau dosbarth (e.e. chwyddo testun, adnoddau tactil, fformat sain) i sicrhau mynediad.
  • Cefnogi symudedd a symud diogel o amgylch yr ysgol, lle bo angen.
  • Defnyddio offer a thechnoleg arbenigol (e.e. chwyddyddion, darllenwyr sgrin, offer Braille os yn berthnasol).
  • Gweithio'n agos ag athro'r dosbarth i gynllunio, cyflwyno a chyfnerthu gweithgareddau dysgu.
  • Hyrwyddo annibyniaeth, hyder a gwydnwch y dysgwr.
  • Cefnogi rhyngweithio cymdeithasol a lles emosiynol y dysgwr.
  • Cydweithio ag arbenigwyr allanol (e.e. Gwasanaeth Synhwyraidd, athrawon arbenigol NG) yn ôl cyfarwyddyd.
  • Cadw cofnodion cywir o gynnydd, y gefnogaeth a ddarperir, a phryderon.
  • Dilyn polisïau diogelu'r ysgol a chyfrannu at amgylchedd dysgu diogel ac cynhwysol.

Manyleb y Person

Hanfodol:
  • Profiad o weithio gyda phlant neu bobl ifanc.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf.
  • Dealltwriaeth o anghenion dysgwyr â nam ar y golwg.
  • Gallu addasu deunyddiau a chefnogi anghenion dysgu.
  • Agwedd amyneddgar, ofalgar a rhagweithiol.
  • Gallu dilyn cyfarwyddiadau a gweithio fel rhan o dîm.
  • Medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dymunol:
  • Profiad o weithio gyda phlant ag ADY.
  • Hyfforddiant ym maes nam ar y golwg neu anghenion synhwyraidd.
  • Gallu defnyddio offer neu feddalwedd arbenigol NG.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant