MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,353 - £27,902
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Tiwtor/Aseswr Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Tiwtor/Aseswr Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Coleg Gwyr Abertawe
Dyma gyfle cyffrous i Diwtor/Aseswr cymwysedig sydd â chefndir iechyd a gofal cymdeithasol i ymuno â’n tîm llwyddiannus a phroffesiynol, sy’n gweithredu o fewn Hyfforddiant CGA, cangen fasnachol y Coleg.

Byddwch yn gweithio mewn tîm o hyfforddwyr proffesiynol a bydd gofyn i chi asesu a hyfforddi dysgwyr mewn amgylchedd gwaith ym mhob agwedd ar gyrsiau a chymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Byddwch yn gweithio â chyflogwyr i nodi a chynnig datrysiadau ynghylch hyfforddiant, er mwyn diwallu anghenion y sefydliad a chynorthwyo Aseswyr a Dilyswyr Mewnol i sicrhau bod holl ofynion y Dilyswyr Allanol a chyrff dyfarnu yn cael eu bodloni.

Bydd gennych ymagwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a byddwch yn gymwys yn alwedigaethol i gyflwyno ac asesu hyd at Lefel 3.

Byddwch yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 (neu gyfwerth) mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac, yn ddelfrydol, Dyfarniad Aseswr A1/Cymhwyster Dilysu Mewnol V1 (TAQA), neu barodrwydd i ennill un o'r cymwysterau hyn. Byddwch hefyd yn meddu ar Lefel 2 (gradd A-C) mewn Mathemateg a Saesneg - hanfodol.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, sgiliau TGCh da iawn, gallu i gyflwyno’r fframwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol i safon uchel er mwyn, ysgogi, ysbrydoli a throsglwyddo gwybodaeth i’r dysgwyr. Bydd gennych hefyd lygad dda am fanylder, brwdfrydedd dros gyflawni targedau a ffocws clir ar ansawdd.

Bydd gofyn i chi ddarparu cymorth i ddysgwyr seiliedig ar waith ar draws ardal ddaearyddol eang.

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Sgiliau Siarad Cymraeg Lefel 1 (gweler y Disgrifyddion Lefel Iaith ynghlwm wrth y disgrifiad swydd), fodd bynnag, bydd gennym ddiddordeb hefyd mewn ymgeiswyr nad ydynt ar y lefel hon ond a fyddai’n awyddus i weithio tuag at ei chyrraedd.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).