MANYLION.
  • Lleoliad: Llangefni,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £22.58 - £34.91 yr awr yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Rydym yn ceisio penodi darlithwyr rhan-amser sy'n cael eu talu fesul awr mewn Gawasanaethau Cyhoeddus i gefnogi ein darpariaeth yn y maes twf hwn. Croesewir ceisiadau'n arbennig gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio yn y maes yma.

Bydd y swydd yn caniatau ichi ddod â'ch arbenigedd sector presenol a cael eich cefnogi i ddatblygu fel darlithydd addysg bellach, gydag arweiniad a chefnogaeth tîm o Arweinwyr Rhaglenni, Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth o fewn yr adran.

Byddai eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd deniadol ar gyfer ein dysgwyr, ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o methodolegau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu a gyflwnir. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa mewn lleoliadau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Byddai gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu a diwydiant. Fodd bynnag, rydym hefyd yn croesawu arbenigwyr yn y sector sy'n edrych i gymryd eu camau cyntaf i addysgu. Byddem yn fodlon ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr a hoffai rannu swydd er mwyn gallu parhau i weithio'n ymarferol yn ochr yn ychr â chymryd swydd addysgu.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/101/26

Cyflog
£22.58 - £34.91 yr awr yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Llangefni

Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.

Patrwm gweithio
Hyd at 16 awr yr wythnos Dydd Llun - Dydd Gwener, yn ystod y dydd i lenwi absenoldebau staff yn ystod tymor y Coleg. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd. Maer pwnc a lefel y ddarpariaeth yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad

Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn amodol ar feini prawf) yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr

Dyddiad cau
22 Ion 2026
12:00 YH(Ganol dydd)