MANYLION.
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 25,185 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Gynradd Tal-y-bont

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 25,185 *

Ynglŷn â'r rôl
Oes gennych brofiad o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol? Ydych chi'n barod i gymryd rôl fwy annibynnol wrth helpu plant i ffynnu yn yr ysgol?

Mae Ysgol Gymunedol Talybont yn recriwtio Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Ymddygiad/Arweiniad/Cefnogaeth) i ymuno â'n tîm cyn gynted ag sy'n bosib am gyfnod o 2 tymor. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i gefnogi disgyblion yn y dosbarth ac y tu allan iddo.

Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:
  • Darparu cefnogaeth wedi'i deilwra i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad at ddysgu.
  • Defnyddio sgiliau arbenigol a phrofiad i ddarparu cefnogaeth allgymorth ac i gynorthwyo gyda Chynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol.
  • Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol.
  • Cefnogi gweithgareddau dysgu, monitro cynnydd disgyblion, a rhoi adborth i athrawon.
  • Helpu i greu amgylchedd dysgu pwrpasol a chefnogol.
  • Meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd, a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol gan gynnwys teithiau a gweithgareddau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • Wedi gweithio gyda neu ofalu am blant o oedran perthnasol.
  • Yn meddu ar NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymwysterau/profiad cyfatebol.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd da ac yn hyderus wrth ddefnyddio TG i gefnogi dysgu.
  • Yn deall datblygiad plant, strategaethau dysgu, a pholisïau perthnasol.
  • Yn hyblyg, rhagweithiol, ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn meddu ar hyfforddiant cymorth cyntaf neu'n barod i'w gwblhau.

Pam Ymuno â Ni?

Ymunwch â chymuned ysgol ofalgar ac ymroddedig lle mae eich sgiliau a'ch profiad yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant, gan eich helpu i dyfu yn eich rôl tra'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgu a lles disgyblion.

Os ydych chi'n angerddol am helpu plant i lwyddo ac eisiau chwarae rhan allweddol yn eu haddysg, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gregory Vearey-Roberts (Pennaeth dros dro) neu Sioned Morris (Pennaeth Cynorthwyol/CADY) ar 01970 832276 prif@talybont.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy