MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata
Goruchwyliwr llanw - Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School29.63 awr yr wythnos,
Yn ystod y tymor yn unig,
Gradd 5 - £26,403 am 29.63 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn, sy'n cyfateb i £18,572.81 pro rata, yn codi i 46.8 wythnos y flwyddyn a £19,906.30 pro rata ar ôl pum mlynedd o wasanaeth.
Rydym yn chwilio am unigolyn cadarn ond teg, dynamig, uchelgeisiol a brwdfrydig, sydd â sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i uniaethu â disgyblion, a gwneud gwahaniaeth go iawn. Efallai fod gennych gefndir addysgu ond yn yr un modd gallech fod â chefndir mewn gwaith ieuenctid neu brofiad o weithio gyda phobl ifanc.
Mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant cyflym er mwyn ceisio rhagoriaeth.
Rydym yn croesawu'n gynnes ymgeiswyr dawnus, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig am ymuno â ni ar y daith honno, ond sydd am wneud cyfraniad gwerthfawr at ei llwyddiant yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Yn ddigynnwrf ac â disgwyliadau uchel
- Yn drwsiadus, yn hyblyg ac yn gweithio'n galed
- Yn gyfathrebwr rhagorol
- Yn meddu ar y weledigaeth a'r ysgogiad i sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn llwyddo
- Yn ysgogi, herio, cefnogi ac ysbrydoli ein disgyblion
- Yn ymrwymedig i godi cyrhaeddiad ar draws pob gallu, beth bynnag fo man cychwyn y dysgwr
- Yn ymrwymedig i gefnogi pob cydweithiwr
- Yn meddu ar brofiad o weithredu newid sy'n cael dylanwad cadarnhaol ar addysg disgyblion
Anfonwch neges e-bost at contact@yht.wales neu ffoniwch 01646 682461
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.