MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,699 pro rata Yn ystod y tymor
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Tiwtor ac Asesydd (Sgiliau Hanfodol Cymru)

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £33,699 pro rata Yn ystod y tymor

Proffil swydd
Mae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd

Manylion y swydd

Cyfeirnod swydd REQ001925 Dyddiad postio 18/12/2025 Dyddiad cau ceisiadau 05/01/2026 Cyflog £33,699 pro rata Yn ystod y tymor Oriau gwaith 37 Ar sail Amser Llawn yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil Tiwtor ac Asesydd (Sgiliau Hanfodol Cymru).pdf Tutor & Assessor Essential Skills Wales).pdf

Tiwtor ac Asesydd (Sgiliau Hanfodol Cymru)

Disgrifiad Swydd
Canolfan Hyfforddi Ysgol Hen Felin

Teras Trafalgar, Ystrad, Pentre, CF41 7RG

Oriau: 37 awr yr wythnos - tymor yr ysgol yn unig

Cyflog: Gradd 8 x 87.84%

Math o gontract: Parhaol

Dyddiad Dechrau: Cyn gynted ag y bo modd

Mae Canolfan Hyfforddi Hen Felin yn chwilio am Diwtor ymroddedig a phrofiadol i gyflwyno Sgiliau Hanfodol Cymru, Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol ar lefelau 2 a 3. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig a phrofiadol a fydd yn gweithio'n dda yn rhan o garfan lwyddiannus sydd wedi'i hen sefydlu. Bydd gyda chi sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i gefnogi dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn llwyddiannus.

Mae gan y Ganolfan enw da ac mae wedi darparu hyfforddiant o'r ansawdd uchaf i ddysgwyr yn Rhondda Cynon Taf ers dros 25 mlynedd.

E-bostiwch kate.owen@rctcbc os hoffech chi drafod y rôl a threfnu ymweliad.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd âr meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.