MANYLION
  • Lleoliad: Glynllifon,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £62,595.85 - £66,016.91
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Maes Rhaglen Diwydiannau'r Tir

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £62,595.85 - £66,016.91

Pwrpas eich rôl fydd arwain y Maes Rhaglen Diwydiannau'r Tir ar gampws Glynllifon er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei lawn botensial ac yn elwa ar y profiadau dysgu gorau posibl.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys rheoli darpariaethau llawn amser, dysgu seiliedig ar waith a chyrsiau byr mewn Amaethyddiaeth, Astudiaethau Anifeiliaid, Nyrsio Milfeddygol, Peirianneg Diwydiannau'r Tir, Rheoli Cefn Gwlad a Choedwigaeth gan gynnwys cymwysterau sy'n gysylltiedig â Bagloriaeth Cymru a TGAU ychwanegol.

Fel rheolwr yng Ngrŵp Llandrillo Menai, byddwch yn ymrwymo i weledigaeth eang y Grŵp sef:
  • Bod yn ddarparwr addysgu a dysgu rhagorol
  • Darparu patrwm o addysg ddwyieithog a gydnabyddir ledled Ewrop
  • Ysgogi'r economi leol drwy rwydwaith o Ganolfannau Rhagoriaeth galwedigaethol
  • Bod yn ganolbwynt ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ag Addysg Uwch, ysgolion a chymunedau.


  • Manylion Swydd
    Cyfeirnod y Swydd
    BD/095/25

    Cyflog
    £62,595.85 - £66,016.91

    Lleoliad Gwaith
    • Glynllifon

    Hawl gwyliau
    • 37 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
    • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
    • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
    • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
    • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.


    Patrwm gweithio
    37 awr yr wythnos.

    52 o wythnosau'r flwyddyn.

    Hawliau Pensiwn
    Cynllun Pensiwn Athrawon

    Math o gytundeb
    Llawn Amser Parhaol

    Dyddiad cau
    11 Ion 2026
    17:00 YH