MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Newport,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £46,019 - £50,085
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £46,019 - £50,085
Rheolwr Cyfathrebiadau BrandSwydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos
Oes gennych chi gefndir mewn rheoli perthnasoedd â'r cyfryngau, brandio a chyfathrebu mewn modd deniadol a diddorol?
Mae Coleg Gwent yn chwilio i benodi rheolwr cyfathrebiadau brand er mwyn datblygu ein dull adrodd straeon a chreu ymgyrchoedd arloesol sy'n ennyn ysbrydoliaeth. Byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth ymestyn ein cynulleidfa a gyrru ein hymwybyddiaeth brand er mwyn bodloni ein targedau recriwtio myfyrwyr.
Ar ôl adnewyddu ein brand yn ddiweddar, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i chi wneud eich marc. Byddwch yn cydweithio âch cyfoedion ar draws y tîm marchnata, y coleg yn ehangach, a chyda asiantaethau allanol er mwyn gosod a chyflwyno ymgyrchoedd integredig sy'n dod ân brand yn fyw. Byddwch hefyd yn rheoli ymholiadau gan y cyfryngau, gan weithredu fel y pwynt cyswllt cychwynnol i newyddiadurwyr, ac arwain gweithgareddau PR gweithredol er mwyn diogelu a gwella enw da'r coleg.
Os ydych chi'n greadigol, yn strategol ac yn barod i gymryd awenau'r broses o adrodd straeon sy’n ysbrydoledig a dengar, carwn glywed oddi wrthyd chi.
Mae'r coleg yn un o'r mwyaf yng Nghymru, ac mae’n cynnig llawer o fanteision i weithwyr, gan gynnwys hawl gwyliau hael, cynllun pensiwn a llawer o fuddion a chyfleusterau ar y safle. Byddwch yn ymuno â choleg uchelgeisiol, llawn pwrpas, ymrwymedig a chefnogol.
O fewn cyrraedd hawdd i goridor yr M4, mae lleoliadau ein campysau o fewn cyrraedd rhai o ardaloedd cefn gwlad harddaf De Cymru. Os ydych chi am wneud gwahaniaeth, dyma'r lle i chi fodloni’r uchelgais hwn.
Ceir amlinelliad o ofynion ychwanegol y rôl yn y Disgrifiad Swydd/Fanyleb Person.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg, ac ni fydd y rhain yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae'r coleg yn ymrwymedig i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a llesiant plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Nodwch fod disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Uwch.
Croesawn yn arbennig geisiadau o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol ân polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch, ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, a gweithredwn fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Dyddiad Cau: 11/01/26
Dyddiad Cyfweld: 22/01/26