MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2674
Sefydliad:
Ysgolion
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyflog o:
L28 - £102,299
Cyflog i:
L34 - £118,494
Oriau Contract:
Llawn Amser
Dewch i ymuno â'n tîm
Dymuna'r Llywodraethwyr benodi Pennaeth brwdfrydig ac ysbrydoledig sydd â'r cymhelliant a'r profiad i arwain Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn hyderus i'r bennod nesaf yn ei hanes. Fel ysgol fro, mae'r ysgol yn cynnig addysg gynhwysol sy'n ceisio ateb anghenion yr unigolyn mewn awyrgylch cefnogol a hollol Gymreig. Bydd rôl y Pennaeth yn hollbwysig er mwyn i'r ysgol barhau i gynnig cyfleoedd eang a deilliannau dysgu rhagorol i bob aelod o gymuned yr ysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn gweithgar sy'n arweinydd llwyddiannus ym maes addysg. Disgwylir i'r unigolyn gynnal safonau addysgol presennol yr ysgol a chynnig gweledigaeth glir i deulu'r ysgol fedru parhau i ddatblygu. Fel un o ysgolion arloesi Cwricwlwm i Gymru, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn gyfarwydd ag arwain datblygiadau mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Dymuna'r llywodraethwyr benodi Pennaeth fydd yn arwain yr ysgol i fedru adeiladu ar ei llwyddiant ac ymateb yn ddeinamig i ddatblygiadau addysgol yng Nghymru.
Wedi'i lleoli ar gyrion Caerfyrddin, ers ei sefydlu ym 1978 mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin wedi dod i chwarae rhan bwysig ym mywyd y gymuned drefol a gwledig sy'n ei hamgylchynu. Mae dalgylch yr ysgol yn gartref i sefydliadau megis Canolfan S4C yr Egin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Theatr Cymru, ac yn elwa o fod â mynediad hwylus at draffordd yr M4 i'r dwyrain, ac ardaloedd gorllewin Sir Gaerfyrddin, de Ceredigion a Phenfro. O fewn y gymuned hon, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i arwain tîm o staff ymroddedig i sicrhau profiadau cyfoethog i bob dysgwr.
Mae'r Llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sy'n:
Gallwn ni gynnig:
Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS).
Pe dymunech drefnu ymweliad â'r safle neu gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, gofynnwn i chi gysylltu gyda Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol ar sian.thomas@bromyrddin.org neu drwy ffonio 01267 234829.
Disgrifiad Swydd:
25-12-16 - Pecyn Recriwtio - Pennaeth YGGBM.pdf - 1438KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
26 Ionawr 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 12/01/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.

- arweinydd â phrofiad o ddarparu addysg gynhwysol sy'n sicrhau'r cynnydd gorau i ddisgyblion
- angerddol dros Addysg Gymraeg gan gynnal a datblygu ymhellach ethos Gymraeg a Chymreig yr ysgol
- meddu ar y weledigaeth, y creadigrwydd a'r gallu i arloesi a gwneud y gorau o bob cyfle wrth arwain yr ysgol lwyddiannus hon
- gallu adeiladu ar y cryfderau cyfredol a datblygu potensial yr holl ddysgwyr a'r staff
- ymrwymedig i gynnal safonau uchel o ran cyflawniad y cwricwlwm
- gallu ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc a staff
- gyfathrebydd rhagorol sy'n gallu ymgysylltu'n effeithiol â holl gymuned yr ysgol gan gynnwys plant, rhieni, staff a llywodraethwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Gallwn ni gynnig:
- corff llywodraethol cefnogol
- grŵp ymroddedig o staff addysgu a chynorthwywyr
- disgyblion yn llawn cymhelliant, dycnwch a brwdfrydedd
- ethos ofalgar, Gymreig lle mae pob unigolyn yn cael ei werthfawrogi
- parodrwydd i arloesi
- awyrgylch hapus, croesawgar a chyfeillgar
Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD MANWL GAN Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS).
Pe dymunech drefnu ymweliad â'r safle neu gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, gofynnwn i chi gysylltu gyda Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol ar sian.thomas@bromyrddin.org neu drwy ffonio 01267 234829.
Disgrifiad Swydd:
25-12-16 - Pecyn Recriwtio - Pennaeth YGGBM.pdf - 1438KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:
26 Ionawr 2026
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 12/01/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd