MANYLION
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £11,656 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £11,656 y flwyddyn

Cynorthwyydd Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
20 awr yr wythnos

Dros dro tan Gorffennaf 2026

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cymorth Dysgu angerddol, ysbrydoledig, a chydwybodol i ymuno â'r tîm llawn cymhelliant yn Ysgol Gynradd Tremains. Mae'r Corff Llywodraethu yn chwilio am berson proffesiynol ac uchelgeisiol sy'n angerddol am drawsnewid dysgu ein disgyblion ar wahanol gamau datblygu.

Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i chi ymuno ân tîm ymroddedig i ddarparu cymorth academaidd a phersonol o ansawdd uchel i'n disgyblion. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu galluogi dysgwyr i gyflawni eu gorau gyda'r gallu a'r sgiliau i ymgysylltu ac uniaethu â disgyblion oed cynradd a'u meithrin.  Mae gwybodaeth gadarn am ymyrraeth llythrennedd a rhifedd a llesiant yn hanfodol.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 07 Ionawr 2026

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Ionawr 2026  

Dyddiad y Cyfweliad: 19 Ionawr 2026

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person