MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £16,444 - £16,705
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £16,444 - £16,705
Ynglŷn â'r Rôl28.5 awr yr wythnos.
Dros dro 31/12/2026
Lefel 2 G04 Pwynt 5-6
Yn ystod y tymor yr unig
I ddechrau: Cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Swyddog Gweinyddol i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.
Mae'r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant. Rydym yn chwilio am berson gweithgar a brwdfrydig sy'n rhannu'r weledigaeth isod:
Bydd y rôl yn cael ei rhannu rhwng y brif swyddfa a'r Hwb Bugeiliol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, red grefyddol neu oedran.
Noder fod swyddi ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Miss Rhian Owen drwy e-bost ar [email protected] . I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais o wefan yr ysgol a'i dychwelyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes yr ysgol, drwy e-bost [email protected] erbyn hanner dydd y 9fed o Ionawr 2026.
This is an advertisement for an Administration Assistant where the ability to communicate through Welsh is essential.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Amdanom Ni
Mae'r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg a lles ein disgyblion ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant.
Rydym yn chwilio am berson gweithredol a brwdfrydig sy'n rhannu ein gweledigaeth: Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch, groesawgar sy'n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a'i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o'i gymdeithas.
Yma, mae pob unigolyn yn cyfrif. Dathlwn fod pob unigolyn yn unigryw a bod pawb yn cael eu hannog i ffynnu'n academaidd, yn greadigol ac yn bersonol mewn awyrgylch Cymraeg clòs, gofalgar a chefnogol. Does neb yn cael ei adael ar ôl.
"Ym mhob llafur mae elw".
Ym Morgan Llwyd, cydweithiwn tuag at, a chyd-ddathlwn, ragoriaeth a llwyddiannau pob aelod o'n cymuned. Mawr obeithiwn y byddwch yn danfon cais atom fydd yn dangos eich bod yn awyddus i weithio gyda ni i ddarparu'r gwasanaeth gorau bosibl ar gyfer ein disgyblion. Mae croeso i chi gysylltu os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach.