MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Hourly rate: £13.47 | Grade 3
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Hourly rate: £13.47 | Grade 3
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant ac Oedolion yn flaenoriaethau allweddol i'r Ysgol a'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n wynebu risg i fod mor ddiogel â phosibl ac i gyflawni eu potensial. Rydych yn gyfrifol am chwarae eich rhan mewn perthynas â llesiant plant ac oedolion sy'n wynebu risg, eu diogelu a'u hamddiffyn. Bydd yn gyfrifoldeb arnoch i gymryd rhan mewn hyfforddiant i'r lefel briodol o ddiogelu a bydd yn ddyletswydd arnoch i gyflawni eich cyfrifoldebau personol o ran diogelu.Mae Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn dymuno penodi pobl frwdfrydig i ymuno â'n Tîm Arholiadau i gynorthwyo fel goruchwylwyr arholiadau trwy gydol y flwyddyn. Bydd nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio yn ôl yr angen, ac yn bennaf yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr, Ebrill, Mai, a Mehefin. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn bwyllog, yn drefnus ac yn hawdd mynd atynt. Bydd gofyn iddynt ddilyn cyfarwyddiadau a chynorthwyo gyda'r broses arholiadau. Mae'r swydd yn addas i rywun sy'n gallu gweithio'n hyblyg ac yn gallu ymrwymo i fod ar gael yn ystod tymor yr arholiadau ym mis Mai a mis Mehefin. Rhoddir hyfforddiant llawn cyn unrhyw waith goruchwylio.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o'n disgyblion yn datblygu fel unigolion llwyddiannus, o'n disgyblion mwyaf agored i niwed i'n disgyblion mwy abl a thalentog. Rydym yn cydnabod bod gofyn personoli dysgu'r disgyblion i fodloni eu hanghenion penodol, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial. Rydym yn cydnabod hefyd fod dysgu yn fwy na chyrhaeddiad academaidd ac y dylai ei ffocws fod ar ddatblygu'r plentyn cyfan, gan gynnwys datblygiad personol.
Am drafodaeth anffurfiol am y broses ymgeisio a'r swydd wag, cysylltwch â Mrs Kirsty Maniatt (Swyddog Arholiadau) i drafod y cyfle hwn ymhellach. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Yn y pendraw, rydym yn ymdrechu i fod yn ysgol lle gwerthfawrogir dysgu, lle mae disgyblion yn cyrraedd eu potensial mewn cymuned hapus a diogel lle maent yn dangos parch a goddefgarwch at eraill.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon neu i ymweld âr ysgol yn anffurfiol, cysylltwch â fy Chynorthwyydd Personol, Mr Christopher Cule i drefnu hyn: christopher.cule@cwmbranhigh.ysgol
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.