MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Gradd 6 (£28,142) gyda Lwfans Dosbarth Arbennig (£1539) x 77.15%
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd 6 (£28,142) gyda Lwfans Dosbarth Arbennig (£1539) x 77.15%
Proffil swyddMae gofynion y swydd wedi'u nodi isod. Mae cymwysterau, sgiliau a phrofiad hanfodol wedi'u rhestru yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb y Person. Mae'r rhain i'w gweld yn yr adran atodiadau isod.
Manylion y swydd
Manylion y swydd
Cyfeirnod swydd REQ001968 Dyddiad postio 26/11/2025 Dyddiad cau ceisiadau 08/01/2026 Cyflog Gradd 6 (£28,142) gyda Lwfans Dosbarth Arbennig (£1539) x 77.15% Oriau gwaith 32.5 Ar sail Rhan Amser yn ystod Tymor yr Ysgol Categori/math o swydd Addysg - Heb fod yn Addysgu Atodiadau Ffeil JD - LSA Cwmclydach Nurture- September 2025_CY-GB.doc JD Nurture 2025.doc
Dosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen - Anogaeth
Disgrifiad Swydd
Addysg a Dysgu Gydol Oes RhCT
Ysgol Gynradd Cwmclydach
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu
Dosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen - Anogaeth
Graddfa Gyflog: Gradd 6 (£28,142) gyda Lwfans Dosbarth Arbennig (£1539) x 77.15%
Oriau: 32.5 awr yr wythnos, tymor yr ysgol yn unig
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
Rydyn ni'n dymuno cyflogi Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu cyn gynted â phosibl ar gyfer y ddarpariaeth uchod. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo athro/athrawes y dosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n rhan o garfan a dangos parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant arbenigol addas mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n hanfodol bod gan ymgeiswyr y sgiliau i gefnogi datblygiad anghenion disgyblion mewn ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Nhŷ Trevithick ar (01443) 744333.
Y dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau yw: 8fed Ionawr, 2026, 11:59pm
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.