MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £29,064.00 - I: £31,022.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 08 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Arweinydd Cyn-ysgol Dechrau'n Deg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £29,064.00 - I: £31,022.00

Lleoliad Mamolaeth

32.5 Awr (39 Wythnos a 3 Diwrnod y flwyddyn)
Gradd 4 77.83% O AM OLEU = £22,620 - £24,144 y flwyddyn

Bydd y Dirprwy Arweinydd Cyn-ysgol yn cynorthwyo'r Arweinydd yn ystod y sesiynau cyn-ysgol i hyrwyddo darpariaeth o ansawdd uchel i blant ac i sicrhau chwarae diogel ac ysgogol i bob plentyn unigol. Bydd y Dirprwy hefyd yn cefnogi'r Arweinydd i gyflawni gofynion cyfreithiol a statudol, cyfrannu a gweithredu polisïau cyn-ysgol, yn ogystal â dyletswyddau eraill a osodwyd gan yr Arweinydd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Amy Lewis / Sarah Ostler ar 01685 725000 neu ebostiwch Amy.Lewis@merthyr.gov.uk / Sarah.Ostler@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 08.01.2026 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.