MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Uwchradd Tywyn,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £15,722 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £15,722 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2 (26 awr)
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
YSGOL UWCHRADD TYWYN
(Uwchradd 11 - 16 oed: 374 o ddisgyblion)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 Lefel 2 (sef £15,476 - £15,722 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2.
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
Cytundeb parhaol.
Oriau gwaith: 26 awr (4 diwrnod) yr wythnos fel Cymhorthydd Cefnogaeth Dysgu Lefel 2
(39 wythnos tymor ysgol yn unig).
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o faes anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol ac anawsterau emosiynol ac ymddygiadol yn benodol o fantais, ond nid yw hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mr David Thorp. Rhif Ffôn 01654 710256 e-bost: pennaeth@tywyn.ysgoliongwynedd.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.
DYDDIAD CAU: 9 O'R GLOCH, DYDD MERCHER, 7 IONAWR 2026.
SAFONAU PROFFESIYNOL CCD.pdf
Manylion Person
MANYLION PERSON
NODWEDDION PERSONOL HANFODOL
• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio'n adeiladol fel rhan o d îm.
• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
• Brwdfrydig a hyblyg
• Personoliaeth Ddigynnwrf
• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Sgiliau rhif/llythrennedd da.
• NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.
DYMUNOL
• Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'
• Hyfforddiant cymorth cyntaf
• Hyfforddiant Amddiffyn Plant
• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.
DYMUNOL
• Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant
• Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth
• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Deunydd effeithlon o TGaCh
• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
• Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith.( Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
SWYDD DDISGRIFIAD - CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (Lefel 2)
YSTOD CYFLOG: Graddfa Gweithwyr Llywodraeth Leol - GS3 (pwyntiau 5-6) 26 awr yr wythnos yn ystod y 39 wythnos tymhorau a diwrnodau HMS.
AMODAU GWAITH: Yn unol ag amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff G.P.T. ac Ch. a gweithwyr llaw.
Dyddiau Gwaith: I'w cytuno.
Oriau Gwaith: 26 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol yn unig.
Rhybudd Gadael: Yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw.
YN ATEBOL I: Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - o ran y cefnogi yn gyffredinol.
PWRPAS SWYDD:
Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o d îm rheoli yr ysgol.
Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.
PRIF DDYLETSWYDDAU
• Cefnogaeth i Ddisgyblion
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
• Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
• Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
• Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
• Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.
Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
• Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
• Cysylltu â'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
•r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
• Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
• Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
• Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
• Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
• Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungop ïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
• Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.
• Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
•n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
•r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytøn.
• Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
Cefnogaeth i'r Ysgol
• Bod yn ymwybodol o bolis ïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
• Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am gr ŵp
o dan oruchwyliaeth yr athro.
Datblygiad Cyfatebol Eraill
• Yn achlysurol bydd angen ymgymryd â dyletswyddau eraill cyffelyb ar gais y Pennaeth a/neu Cyd-Gysylltydd ADY.
DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD
Mae'r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o'r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.
Bydd hyfforddiant ar gael i'r Cymhorthydd drwy'r dulliau canlynol yn bennaf:
• mynychu cyrsiau sirol.
• mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol.
• cysgodi a chyd-weithio â staff eraill.
• mentora gan y Cyd-Gysylltydd ADY.
DYLETSWYDDAU PENODOL ERAILL
Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.
SYLWER:
Tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.
Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i'r swydd a'r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy'n datblygu cyflwr sy'n anablu.
Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'n gymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi