MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Gwyddoniaeth dros dro - Ysgol Bro Dinefwr

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 2647

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn

Dyddiad gorffen y contract:

31 Awst 2026

Lleoliad:

Llandeilo

Gradd:

Athrawon Ysgol

Cyflog:

£32,731 - £51,942 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£24.72 - £30.04

Oriau Contract:

32.5

Dewch i ymuno â'n tîm

Athro Gwyddoniaeth dros dro

Math o gontract - Dros Dro (cyfnod penodol) ">Cyflog - PRC/URC ">Oriau - Llawn amser ">Dyddiad cychwyn - 1af Ebrill 2026 "> ">Ydych chi'n angerddol am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr? Mae Ysgol Bro Dinefwr yn chwilio am Athro Gwyddoniaeth deinamig ac ymroddgar i ymuno â'n tîm profiadol ac ymroddgar. Mae'r swydd hon yn gofyn (yn ddelfrydol ond nid gorfodol) am y gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sicrhau amgylchedd dysgu cynhwysol ac ymgysylltiol i bob myfyriwr.

Mae Ysgol Bro Dinefwr yn ysgol categori Dwyieithog (T3) wedi'i lleoli wrth ymyl tref Llandeilo, ar lannau'r afon Tywi a yng nghysgod Castell Dinefwr. Mae'n ysgol o 1089 o ddisgyblion sy'n darparu addysg i ddisgyblion o flwyddyn 7 - 13 yn ogystal ag uned Awtistiaeth arbenigol i 42 o ddisgyblion. Darperir addysg i ddisgyblion mewn lleoliad gwledig ac ar safle newydd sy'n cynnwys adnoddau dysgu rhagorol. Rydym yn falch iawn o fedru cynnig addysg arloesol gan ddefnyddio ein canolfan Addysg Awyr Agored 'Natur', sy'n ardal o tua cyfer a hanner o ardd, llwyfan awyr agored, twnelai poly, llyn, a llety i'n Geifr, ieir a hwyaid. Ein nod yw creu amgylchedd o gyflawniad a chynhwysiant i bob aelod o'n cymuned ar mwyn iddynt esgyn ar adain dysg.

Rydym yn awyddus i benodi athro sy'n medru datblygu a darparu cynlluniau gwersi diddorol sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ac yn addas i arddulliau dysgu amrywiol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn defnyddio dulliau dysgu arloesol i feithrin chwilfrydedd a meddwl beirniadol ymhlith myfyrwyr gan ddarparu adborth adeiladol a chymorth i fyfyrwyr i wella eu dealltwriaeth a'u meistroli o gysyniadau gwyddonol, a'u herio i ddysgu mwy am wyddoniaeth. ">Fel adran blaengar bydd angen cydweithio gyda'r tîm i greu cyfleoedd dysgu rhyngddisgyblaethol gyda ffocws benodol ar ddatblygu cwricwlwm awyr agored i ddisgyblion blynyddoedd 7-9. Bydd galw ar yr ymgeisydd llwyddiannus i gyfrannu at gwricwlwm TGAU hyd at Lefel A, gan baratoi disgyblion i gwrdd a'r her o wynebu arholiadau allanol a chyrraedd safonau uchel o gyrhaeddiad. Mae gan Ysgol Bro Dinefwr hanes o gynnal safonau cyrhaeddiad uchel ar draws y continwwm gan sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial. ">Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd Baglor mewn Gwyddoniaeth.Yn ychwanegol i hyn dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannusstatws Athro Cymwysedig (QTS) a phrofiad o ddysgu Gwyddoniaeth ar lefel uwchradd hyd at safon TGAU a lefel uwch. ">Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion i'r staff sy'n cynnwys rhaglen ddatblygiad personol eang a chynhwysfawr, cyfleodd i gyd-weithio yn agos gyda chymheiriaid o fewn a thu hwnt i faes dysgu Gwyddoniaeth a chefnogaeth adrannol i rannu adnoddau dysgu a datblygu cynlluniau newydd. Ymfalchïwn wrth gynnig amgylchedd gefnogol a ddatblygol gydag ethos o rannu arferion llwyddiannus er budd yr holl gymuned. ">Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu â'r Pennaeth Mr Eirian Davies am drafodaeth anffurfiol (Ffôn 01558 824800) neu drwy e-bost: eirian.davies@brodinefwr.org.uk . ">Dyddiad cau: Dydd Iau 4/1/26, Canol dydd ">Cyfweliad, wythnos sy'n cychwyn: I'w gadarnahau ">Dyddiad Cychwyn: 1af Ebrill 2026

Disgrifiad Swydd:

YBD Athro Pwnc - Subject Teacher.pdf - 228KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 04/01/2026, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.