MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: St Mary’s Roman Catholic Primary School,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £12,613 - £13,024 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair (Dros Dro)
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £12,613 - £13,024 y flwyddyn
Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair (Dros Dro)Disgrifiad swydd
20 awr yr wythnos
Amser Tymor
Dros dro hyd at 31 Awst 2026.
I ddechrau cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn ceisio penodi Swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig, gofalgar a chydwybodol i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gydag athrawon, mewn ysbryd o waith tîm rhagorol, i ddarparu cymorth o ansawdd uchel i grwpiau o ddysgwyr ac i unigolion o fewn ethos Catholig cryf.
I ddechrau, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth hanfodol o fewn Stiwdio Blynyddoedd Cynnar yr ysgol. Felly, byddai lefel uchel o wybodaeth a sgiliau mewn perthynas ag addysgu a dysgu'r Blynyddoedd Cynnar yn fantais sylweddol.
Byddwch wedi cymhwyso i o leiaf NVQ Lefel 3 neu gyfwerth ac yn meddu ar brofiad da o weithio gyda phlant mewn amgylchedd ysgol.
Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â'r ysgol er mwyn trefnu ymweliad.
Os hoffech drafod y swydd hon, ffoniwch Mrs Azzopardi, Pennaeth, ar 01656 815560.
Nodwch: Bydd angen llenwi Ffurflen Gais Staff Cymorth CES i wneud cais am y swydd. Gellir lawrlwytho'r ffurflen yma: www.catholiceducation.org.uk/resources/model-application-forms
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u llenwi yn uniongyrchol i'r ysgol erbyn y dyddiad uchod; drwy e-bost i admin@stmaryscps.bridgend.cymru neu drwy'r post at:
Mrs Azzopardi
Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
Heol Llangewydd,
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4JW
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Ionawr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 14 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 26 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person