MANYLION
  • Lleoliad: Ystradgynlais,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif Raddfa gyda Lwfans AAA o £2,838pa yn ychwanegol at y Cyflog
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth ar gyfer Canolfan Lloeren (Ysgol Brynllywarch)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa gyda Lwfans AAA o £2,838pa yn ychwanegol at y Cyflog

Athro Dosbarth ar gyfer Canolfan Lloeren (Ysgol Brynllywarch)
Swydd-ddisgrifiad

Prif Gyfrifoldebau:
1. Ethos yr Ysgol

Cynnal, a rhoi ar waith, weledigaeth a nodau y cytunwyd arnynt gan yr ysgol;
• Hyrwyddo llesiant disgyblion bob amser; Hyrwyddo cyfleoedd cyfartal mewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol; Sicrhau gofal corfforol ac emosiynol o safon uchel i bob disgybl; Gwella datblygu moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn y
dosbarth ac yn ystod gwasanaethau ysgol; Hyrwyddo ymddygiad da, parch at ei gilydd a rheolau'r ysgol; Anelu at feithrin hunanddisgyblaeth ym mhob disgybl; disgwyl ymddygiad da a
chwrteisi gan bob disgybl; Gweithredu holl bolisïau a gweithdrefnau'r ysgol gyfan; Hyrwyddo datblygu y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion o Gymru, ei threftadaeth a'i
diwylliant; Adrodd ar anghenion lles, cymdeithasol a phersonol disgyblion unigol i'r Pennaeth.
2. Cynllunio
• Paratoi cynlluniau cwricwlwm tymor hir, tymor canolig a thymor byr, gan gadw'n
ymwybodol o ofynion y Cwricwlwm Cymreig Newydd, y Fframwaith Cymwyseddau
Digidol a mentrau/fframweithiau/cynlluniau addysg Cynulliad Cymru; Llunio cynlluniau gwersi wythnosol a gwerthuso cynnydd disgyblion; Nodi anghenion disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY, MATh ac
Saesneg fel Iaith Ychwanegol) o fewn cynlluniau gwersi wythnosol a gwahaniaethu
tasgau/gweithgareddau yn unol â hynny. Cysylltu'n rheolaidd â'r Cydlynydd ADY ac
ystyried darpariaeth ddysgu ychwanegol pob disgybl o fewn eu CDU.