MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Brecon,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 10 Pwynt 27 i Bwynt 29 £38,220 i £39,862 y flwyddyn ar gyfartaledd £19.81 i £20.66 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 10 Pwynt 27 i Bwynt 29 £38,220 i £39,862 y flwyddyn ar gyfartaledd £19.81 i £20.66 yr awr
Rheolwr Cyllid (Ysgol Uwchradd Aberhonddu)Swydd-ddisgrifiad
Mae ceisiadau'n cau ar 15 Rhagfyr 2025 am 10yb
Ynglŷn â'r Swydd
Rydym yn chwilio am Reolwr Cyllid ymroddedig i ymuno ân tîm. Mae hon yn rôl bwysig iawn yn yr ysgol gan y bydd yn parhau i'm cefnogi i ddarparu rheolaeth gadarn ar gyllideb yr ysgol ac i sicrhau cynhyrchu
incwm posibl yn y tymor hir.
Prif Gyfrifoldebau
• Arwain a rheoli'r adnoddau ariannol i gyflawni amcanion strategol yr ysgol, gan gynnwys cynllunio cyllideb, modelu cyllideb a chynnal uniondeb ariannol.
• Rheoli a monitro gwariant cyllidebau, fel y gofynnir gan y corff llywodraethu, gan sicrhau uniondeb ariannol a bod argymhellion archwilio a gofynion FMS yn cael eu gweithredu.
• Arwain a rheoli gwaith y staff cyllid, gan sicrhau bod gwasanaeth ariannol effeithiol yn cael ei ddarparu.
• Rheoli gweithdrefnau gweinyddol cymhleth.
• Cynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau fel y bo'n ofynnol.
Cymwysterau ac Addasrwydd Hanfodol
• Addysg lefel gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol neu ddangos gwybodaeth, profiad a chymhwysedd sylweddol cysylltiedig.
• Profiad o reoli cyllid a gwybodaeth am bolisi ariannol a safonau, fel arfer yn meddu ar gymhwyster ariannol, e.e. AAT/CIPFA/CCAB/DSBM/ADSBM.
• Er bod profiad o gyllid ysgol yn ddymunol, os oes gennych wybodaeth gadarn am reolaeth ariannol a sgiliau trosglwyddadwy, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Pam Ymuno â Ni?
• Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
• Gweithio mewn amgylchedd ysgol cefnogol a chydweithredol.
• Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob grŵp a chefndir.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd ac yr hoffech drefnu trafodaeth anffurfiol gyda'r Pennaeth, anfonwch e-bost at Miriam Coleman (mcoleman@brecon-hs.powys.sch.uk).
Gofynnir i bob ymgeisydd gwblhau'r ffurflen gais a ddarperir a nodi sut mae eich sgiliau, profiad ac ansawdd personol yn eich gwneud yn berson delfrydol i ymuno âr ysgol.