MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Mid Powys,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
Technegydd Gwyddoniaeth (Lefel 2) (Ysgol Calon Cymru)Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Calon Cymru
25 awr yr wythnos / 39 wythnos y flwyddyn
Cyfnod penodol tan 17.07.2026
Rydym yn ceisio penodi Technegydd Gwyddoniaeth hynod drefnus a brwdfrydig i ymuno â'n cymuned ysgol bywiog. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus cyd-drefnu'r defnydd o adnoddau a chyfleusterau ymarferol a darparu cymorth a chyngor i ddiwallu anghenion ymarferol y cwricwlwm gwyddoniaeth, gan gynnwys cysylltu â staff addysgu a staff cymorth y tu allan i'r adran.
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ar gyfer disgyblion 11-18 oed. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch wledig eang, wedi'i lleoli ar ddau gampws, gyda chweched dosbarth brwd. Mae Ysgol Calon Cymru yn elwa o dîm gweithgar, cymwys ac ymroddedig o athrawon a staff cyswllt. Mae'r ysgol yn meithrin ethos cryf o barch at ei gilydd, ysbryd tîm a chydweithio e
r budd gorau'r disgyblion. Mae ein disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn groesawgar ac yn falch o'u hysgol. Maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o fod y gorau y gallwn fod. Bydd eich ychwanegu at y gymuned ddysgu yn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth hon. Mae gwefan ein hysgol (https://www.ysgolcalon.cymru/ ) yn darparu ystod o wybodaeth am yr ysgol.
Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2022 ac fe'i disgrifiwyd gan Estyn fel a ganlyn: 'Mae Ysgol Calon Cymru yn darparu amgylchedd dysgu digynnwrf, gofalgar a chyfoethog lle mae llawer o ddisgyblion yn datblygu fel unigolion hapus, hyderus a pharchus. Mae llawer o ddisgyblion yn
ymddwyn yn barchus tuag at ei gilydd, yn datblygu perthynas gadarnhaol gyda staff yr ysgol ac yn gyfeillgar gydag ymwelwyr.'
Mae Ysgol Calon Cymru yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Os ydych yn frwd dros gefnogi myfyrwyr a staff mewn amgylchedd ysgol prysur, ac rydych yn chwilio am rôl lle bydd eich cyfraniadau'n gwneud gwahaniaeth go iawn, hoffwn eich annog i wneud cais.
Dyddiad Cau:10 Rhagfyr 2025
CyfweliadauI'w cadarnhau
Dyddiad Dechrau1 Ionawr 2026
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: office@caloncymru.powys.sch.uk