MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Treferthyr, Criccieth,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £8,203 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 12 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cefnogi Ysgol Lefel 2 (12 awr) a Clerc Llywodraethwyr (Dros Dro) Ysgol Treferthyr, Cricieth
Cyngor Gwynedd
Cyflog: £8,203 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
SWYDDOG CEFNOGI YSGOL LEFEL 2 (12 AWR) A CLERC LLYWODRAETHWYR (DROS DRO)
YSGOL TREFERTHYR, CRICCIETH
(Ysgol Gynradd 3 - 11 oed: 123 o ddisgyblion)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3, pwyntiau 5 - 6 (sef £7,143 - £7,256 y flwyddyn, ar gyfer y swydd Swyddog Cefnogi a GS2 pwyntiau 3 - 4 sef £929 - £947 y flwyddyn ar gyfer y swydd Clerc Llywodraethwyr, yn ôl profiad a chymhwyster.
Yn eisiau: 5 Ionawr 2026, neu cyn gynted a phosib wedi hyn
Swydd Dros dro yw hon hyd at Rhagfyr 2026.
Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am berson i gynorthwyo gyda gwaith gweinyddol yn yr ysgol a Clerc Llywodraethwyr.
Oriau Gwaith: 12 awr yr wythnos (yn ddelfrydol 4 bore, ond mae hyblygrwydd) ar gyfer y swydd Swyddog Cefnogi Ysgol (39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd). Gweler Swydd Ddisgrifiad ar gyfer oriau swydd Clerc Llywodraethwyr.
Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol o safon uchel.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mr Dylan Roberts (Rhif Ffôn 01766 522300) e-bost: Dylan.Roberts@treferthyr.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Elen Jones, Swyddog Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704047 e-bost: elenjones2@gwynedd.llyw.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr ysgol.
DYDDIAD CAU: 12 O'R GLOCH, DYDD GWENER, 12 RHAGFYR 2025.
(This is an advertisement for the post of a Temporary School Support Officer Level 2 (12 hours) and Governors Clerk at Ysgol Treferthyr, Criccieth for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school).
Manylion Person
Swyddog Cefnogi Ysgol Lefel 2:
Profiad
• Gwaith clerigol/gweinyddol/ariannol cyffredinol.
Cymwysterau
• NVQ 2 neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol.
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd da.
Gwybodaeth/ Sgiliau
• Gwybodaeth briodol o gymorth cyntaf.
• Defnydd effeithiol o becynnau TGaCh.
• Defnydd o offer/adnoddau perthnasol.
• Sgiliau bysellfwrdd da.
• Gwybodaeth o bolisïau /codau ymarfer priodol ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth berthnasol.
• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion.
• Gweithio'n adeiladol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, deall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol a'ch safle eich hun o fewn y rhain.
• Y gallu i adnabod anghenion hyfforddiant a datblygiad eich hun a chydweithredu i ymateb i'r anghenion hyn.
Clerc Llywodraethwyr:
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cefndir addysgol cadarn.
Cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r cymhwyster/hyfforddiant ar gyfer Clercod Llywodraethol o fewn cyfnod o flwyddyn o ddyddiad y penodiad.
DYMUNOL
Cymhwyster cydnabyddedig neu brofiad blaenorol ym maes gweinyddiaeth.
Wedi mynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr yn y gorffennol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad blaenorol o gofnodi cyfarfodydd, pwyllgorau, cymdeithasau neu glybiau.
DYMUNOL
Ymwybyddiaeth o faes Llywodraethwyr Ysgolion.
Profiad o gydweithio'n effeithiol efo gweithwyr eraill ar bob lefel.
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda'n effeithiol.
DYMUNOL
Gwybodaeth am drefniadaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion
Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office a'r we
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Yn gallu cyd-weithio fel aelod o dim.
Yn gallu gweithio i gyrraedd targedau penodol.
Gallu cyfathrebu'n effeithiol ac arddangos blaengaredd (gweld gwaith).
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith.
Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Swyddog Cefnogi Ysgol Lefel 2:
PWRPAS SWYDD
• Darparu cefnogaeth gyffredinol weinyddol/ariannol i'r ysgol dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff uwch.
PRIF DDYLETSWYDDAU
Trefniadaeth
• Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa, ateb ymholiadau ffôn a wyneb yn wyneb ac arwyddo ymwelwyr i mewn.
• Cynorthwyo gyda chymorth cyntaf /dyletswyddau lles disgyblion, gofalu am ddisgyblion sy'n sâl, cysylltu â rhieni/staff, ayyb.
• Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer teithiau ysgol, digwyddiadau, ayyb.
Gweinyddu
• Darparu cefnogaeth glercio/weinyddol gyffredinol, e.e. llungopïo, ffeilio, ffacsio, cwblhau ffurflenni safonol, ymateb i ohebiaeth arferol.
• Cynnal cofnodion /systemau gwybodaeth rheolaeth, e.e. SIMS.
• Cynhyrchu rhestrau/gwybodaeth/data fel y bo'n ofynnol, e.e. data disgyblion (STAR).
• Ymgymryd â theipio a phrosesu geiriau a thasgau TG-seiliedig eraill.
• Cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd.
• Trefnu a danfon post.
• Ymgymryd â gweithdrefnau arferol gosod adeiladau'r ysgol a defnydd eraill o adeilad yr ysgol.
Adnoddau
• Gweithredu offer perthnasol/ pecynnau TG a Ch (e.e. Word, Excel, basdata, taenlenni, rhyngrwyd).
• Cynnal stoc a chyflenwadau, catalogio a dosbarthu fel y bo'n ofynnol.
• Gweithredu gwerthiannau gwisg a gwerthiannau eraill o fewn yr ysgol.
• Darparu cyngor ac arweiniad cyffredinol i staff, disgyblion ac eraill.
• Ymgymryd â gweinyddu ariannol cyffredinol, e.e. prosesu archebion cyflenwadau, casglu a chynnal llechres ysgol.
Cyfrifoldebau
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau a chydymffurfio â hwy mewn perthynas ag amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeledd, cydgyfrinachedd a gwarchod data, gan adrodd ar bob pryder i'r pennaeth.
• Bod yn ymwybodol o wahaniaeth a'i gefnogi a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Gwerthfawrogi a chefnogi swyddogaeth pobl broffesiynol eraill.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol fel bo'r gofyn
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill a datblygu perfformiad fel bo'r gofyn.
Clerc Llywodraethwyr:
PWRPAS Y SWYDD
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Darparu gwasanaeth Clerigol i'r Corff Llywodraethol.
Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio'n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
1. Cyd-weithio gyda'r Cadeirydd a'r Pennaeth ar gynnwys rhaglen cyfarfodydd gan ddarparu papurau cefndir ar gyfer y
cyfarfodydd hynny - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
2. Darparu ac anfon rhaglen i aelodau'r corff llywodraethu - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
3. Gwirio gyda'r Cadeirydd ar unrhyw faterion y gweithredwyd arnynt rhwng cyfarfodydd ac sydd angen eu hadrodd i'r corff
llywodraethu.
4. Mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu llawn yn ogystal â'r is-bwyllgorau statudol gan gymryd cofnodion priodol (hyd
at 6 cyfarfod yn flynyddol yn unig). Gall y Clerc hawlio tal ychwanegol i glercio cyfarfodydd ychwanegol.
- Mae'n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o'r Corff Llawn yn dymhorol
- Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda'r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn
- Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn
5. Sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw a bod y wybodaeth
hynny yn hysbys i'r Awdurdod Lleol.
6. Cynhyrchu ac anfon copïau drafft o'r cofnodion i'r Pennaeth cyn creu fersiwn derfynol i'w
ddosbarthu i bob aelod o'r Corff Llywodraethu a ALl.
7. Cofnodi presenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd a rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn
perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg presenoldeb.
8. Cadw cofnod o dymor gwasanaeth pob llywodraethwr gan gysylltu â'r Awdurdod Lleol ar achlysuron pan fo
cyfnod gwasanaeth yn dod i ben, neu pan fo ymddiswyddiadau.
9. Gohebu ar ran y Corff Llywodraethu, yn ôl yr angen.
10. Cadw trefn ar gofnodion, gohebiaeth a dogfennau eraill yng nghyswllt gwaith y corff llywodraethu.
11. Cynorthwyo'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu i baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.
12. Mynychu a chadw cofnodion o Gyfarfod Llywodraethwyr a Rhieni wedi dilyn cais gan y Rhieni.
13. Cynorthwyo'r Corff Llywodraethol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer Gwobrau Ansawdd i'r Corff Llywodraethol.
14. Mynychu'r cyrsiau a drefnir ar gyfer Clercod Llywodraethol, a chwblhau'r cwrs mandadol i glercod newydd. Dosbarthu gwybodaeth am hyfforddiant i'r Corff Llywodraethol, cadw cofnod o'r llywodraethwyr fynychodd.
15. Cadw cofnod fanwl o'r llywodraethwyr sydd angen mynychu cyrsiau mandadol . Rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg mynychu cwrs mandadol.
16. Disgwylir i'r Clerc gadw cofnod a gofalu fod Dadleniad Datganiad Troseddol a Datganiad Buddiant pob
llywodraethwr yn gyfredol.
17 Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
18 Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn
Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
19 Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
20 Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod
gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
21 Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y
Swydd.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.)
- Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol
- Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr
ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL CYNRADD
Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod 3 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 7.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr
Cyfanswm oriau fesul cyfarfod 12.5awr
12.5awr x 6 cyfarfod = 75 awr
Gweinyddiaeth - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
7.5 awr mewn blwyddyn
Gweinyddu = 7.5 awr
Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant
Cyfanswm oriau = 84.5awr
NODYN
- 6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.
- Pe byddai'r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio gor-amser.
- Pe byddai'r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio'r amser hwn yn ychwanegol.
Mae'r swydd ddisgrifiad uchod yn disgrifio pwrpas pennaf a'r prif elfennau'r swydd. Mae'n ddarlun o natur a phrif ddyletswyddau'r swydd fel mae'n bodoli yn bresennol, ond ni fwriedir iddo fod yn ddarlun holl-gynhwysfawr ac nid yw yn rhan o'r cytundeb cyflogaeth.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi