MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Kerry,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.68 i £14.12 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu - Lefel 2 (Arbennig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r Corff Llywodraethu am benodi cynorthwyydd addysgu llawn amser i ymuno â'n tîm deinamig.
Byddwch yn berson llawn cymhelliant, ymroddedig a brwdfrydig sy'n mwynhau gweithio
fel rhan o dîm i gefnogi myfyrwyr ag ymddygiad heriol. Mae cyfle hefyd i gynorthwyo
gyda'r trefniadau teithio ar gyfer ein disgyblion ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol a
gallwch hawlio am yr oriau a weithir yn ychwanegol at eich cyflog.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus meddu ar: -
• Brofiad o weithio gyda myfyrwyr ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac
ymddygiadol.
• Y gallu i weithio gyda grwpiau o 8 i 10 o fyfyrwyr yn ogystal ag un i un.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
(DBS) Cyngor Sir Powys a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg(CGA) a bydd
angen dau eirda boddhaol arnom hefyd cyn dechrau yn y swydd.
Ar gyfer ffurflenni cais a disgrifiad swydd e-bostiwch: jobapplications@powys.gov.uk
neu gallwch wneud cais ar-lein yn www.powys.gov.uk
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mrs Suzanne Williams, Rheolwr Busnes ar 01686 670276.