MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Diogelu ac Ymgysylltu â Theuluoedd - Ysgol Uwchradd Hwlffordd

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 6 - £28,142 - £31,022 pro rata

Gradd 6 - £28,142 am 37 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 49.6 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £26,771.06 pro rata yn codi i 49.7 wythnos, £29,570.26 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.

Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd yn chwilio am Swyddog Diogelu ac Ymgysylltu â Theuluoedd ymroddedig a rhagweithiol i ymuno â'n tîm ymroddedig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal bugeiliol o ansawdd uchel yn yr ysgol, gan gysylltu âr staff bugeiliol perthnasol a gweithio ochr yn ochr â nhw, gan gynnwys y Tîm Diogelu Dynodedig, arweinwyr cyflawniad, a chynorthwywyr bugeiliol yn ogystal ag asiantaethau allanol, a chynorthwyo gyda phob agwedd ar ddiogelu ar draws yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cefnogaeth cynhwysiant cymdeithasol i ddisgyblion a theuluoedd sy'n cael anawsterau. Byddant yn cefnogi ac yn gwella'r rhaglenni addysg gymunedol yn yr ysgol ac yn galluogi'r ysgol i gyflawni ei dyletswydd statudol i sicrhau mynediad a phresenoldeb yn yr ysgol a gwella prydlondeb.

Yn ogystal â hyn, byddwch yn helpu i fynd i'r afael â thangyflawniad trwy gydweithio â theuluoedd, rhieni, gofalwyr, disgyblion a staff mewn cyd-destun ysgol i alluogi disgyblion, yn enwedig y rhai sydd fwyaf o dan anfantais, i gael mynediad llawn at gyfleoedd addysgol a goresgyn rhwystrau i ddysgu a chyfranogi.

Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein disgyblion yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ac rydym yn awyddus i rannu gwybodaeth i'ch helpu i gyflwyno cais llwyddiannus. Gallwch ymweld ân gwefan am ragor o wybodaeth am yr ysgol neu gyfrifon Facebook neu Instagram yr ysgol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.