MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanfair Caereinion,
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Bro Caereinion)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Bro Caereinion)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
YSGOL BRO CAEREINION
Cynorthwyydd Addysgu - Generig Lefel 2
Graddfa 4, Pwynt 5 i 6
£25,583 - £25, 989 y flwyddyn ar gyfartaledd
Hyd at 17/7/2026 yn yr achos cyntaf
Annwyl Ymgeisydd
Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig a chydwybodol sy'n frwd dros gefnogi dysgu a medrau ieithyddol ein disgyblion. Byddwch yn cefnogi disgyblion cynradd ac uwchradd o fewn y dosbarth ac fel rhan o grwpiau ymyrraeth tu
allan i'r dosbarth.
Fel ysgol pob oed sy'n symud ar hyd y continwwm iaith, byddwch yn gweithio o dan arweiniad ein CADY a staff addysgu i weithredu a goruchwylio gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt gyda disgyblion unigol a grwpiau bach o ddisgyblion, yn yr ystafell ddosbarth, neu y tu allan iddi.
Gall hyn gynnwys cynorthwyo i gynllunio, paratoi a chyflwyno'r gweithgareddau dysgu, yn ogystal a monitro disgyblion, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniadau, cynnydd a datblygu, o dan gyfarwyddyd yr uwch dim arwain a'r athro / athrawes ddosbarth.
Fel rhan o weledigaeth ein hysgol O'n Bro, i'r Byd 'rydym yn angerddol dros:
• Sicrhau safon uchel o addysgu a dysgu i ddatblygu pob disgybl i'w lawn botensial
• Cyflwyno profiadau dysgu rhagorol ac eang i bawb trwy osod disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad
• Datblygu lles emosiynol, corfforol a meddyliol disgyblion trwy ddarparu cymuned ysgol ddiogel a pharchus lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn
• Meithrin ein hunaniaeth ddiwylliannol a'n treftadaeth, gan alluogi pawb i ddefnyddio'r Gymraeg a Saesneg yn hyderus, gan fanteisio ar bob cyfle yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sefydlu perthynas waith gadarnhaol gyda disgyblion ac yn gosod disgwyliadau dysgu ac ieithyddol uchel trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol sy'n symud ar hyd y continwwm iaith, ac mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C - Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)). Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs gyda'r pennaeth neu i ddod i ymweld â'r ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda'ch cais.