MANYLION
  • Lleoliad: Abermule,
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif Raddfa
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth Cyfnod Allweddol 2 (Ysgol Gynradd Abermiwl)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa

Athro Dosbarth Cyfnod Allweddol 2 (Ysgol Gynradd Abermiwl)
Swydd-ddisgrifiad
Cynnal a gweithredu gweledigaeth a nodau'r ysgol a gytunwyd;
• Hyrwyddo lles disgyblion bob amser; Hyrwyddo cyfle cyfartal mewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol; Sicrhau safon uchel o ofal corfforol ac emosiynol i bob disgybl; Gwella datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn y dosbarth ac yn ystod gwasanaethau ysgol; Hyrwyddo ymddygiad da, parch y disgyblion at ei gilydd a rheolau'r ysgol; Bod â'r nod o feithrin hunanddisgyblaeth ym mhob disgybl; disgwyl ymddygiad da a chwrteisi gan bob disgybl; Gweithredu holl bolisïau a gweithdrefnau'r ysgol gyfan; Hyrwyddo datblygiad y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion o Gymru, ei threftadaeth a'i diwylliant; Adrodd ar anghenion lles, cymdeithasol a phersonol disgyblion unigol wrth y Pennaeth.
Cynllunio
• Paratoi cynlluniau cwricwlwm tymor hir, tymor canolig a thymor byr, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ofynion y Cwricwlwm Cymreig Newydd, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol (DCF) a mentrau/fframweithiau/cynlluniau'r Cynulliad
Cenedlaethol ym maes addysg; Cynhyrchu cynlluniau gwersi wythnosol a gwerthuso cynnydd disgyblion; Nodi anghenion disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA, Mwy Abl a Dawnus a Saesneg fel Iaith Ychwanegol) o fewn cynlluniau gwersi wythnosol a gwahaniaethu tasgau yn unol â hynny. Cysylltu'n rheolaidd â'r Cydlynydd ADY ac ystyried CAU pob disgybl.