MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llandrindod Wells,
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
Cynorthwyydd Lleoliad Cyn Ysgol Lefel 2 (Ysgol Trefonnen)Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol ysbrydoledig, gofalgar a chreadigol sydd yn gwneud dysgu'n hwyl i bawb.
Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Trefonnen yn ysgol ddwy ffrwd gymunedol a reolir yn wirfoddol, ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai drwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae ein holl ddisgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. Yn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, dau grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn ysgol (cyfrwng Cymraeg a Saesneg), dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau Bwyd a Hwyl buddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
CYNORTHWYYDD BLYNYDDOEDD CYNNAR (Parhaol)
11 awr yr wythnos - yn dechrau 1.2.26
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle i Gynorthwyydd Blynyddoedd Cynnar ymuno â'n tîm dibynadwy, gweithgar ac effeithlon.
Rydym yn chwilio am gynorthwyydd sydd:
- wedi ennill cymhwyster lefel 3 a gaiff ei gydnabod ar restr gyfredol Cyngor Gofal Cymru o Gymwysterau Derbyniol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar.
- yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion ac arferion Blynyddoedd Cynnar ac
- yn gallu:
- cyfrannu at gynllunio a chadw cofnodion.
- goruchwylio a rhyngweithio'n effeithiol â phlant yn ystod y sesiynau.
- cefnogi plant yn gyson gan gydnabod ac ymateb i'w hanghenion unigol.
- hyrwyddo cynhwysiant.
11 awr Blynyddoedd Cynnar - Llun i Iau, 1 - 3.30 ynghyd ag 1 awr o amser cynllunio/cyfarfod
Dyddiad cau: 5.1.26
Rhestr Fer a Dyddiadau cyfweld: I'w cadarnhau
Am fwy o wybodaeth cysylltwch âr ysgol ar 01597 822190 neu office@trefonnen.powys.sch.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon