MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
Gradd 3 - £24,796 am 19 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £11,184.79 pro rata.Mae Ysgol y Glannau yn ysgol gymunedol fach, gyfeillgar sydd wedi'i lleoli yng nghanol cefn gwlad Sir Benfro. Rydym yn ymfalchïo mewn creu amgylchedd meithringar lle y mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i annog i ffynnu ynddi. Os ydych chi'n frwd dros gefnogi dysgu plant ac eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ynglŷn â'r rôl:
Fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu, byddwch yn gweithio'n agos gydag athrawon i gefnogi dysgu a datblygiad disgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol. Bydd eich rôl yn cynnwys:
- Darparu cymorth un-i-un ac i grwpiau bach.
- Cynorthwyo gyda gweithgareddau ystafell ddosbarth ac adnoddau dysgu.
- Annog ymddygiad ac ymgysylltiad cadarnhaol.
- Helpu i greu amgylchedd cynhwysol a meithringar.
- 19 awr yr wythnos, rhwng 8.45am a 12.30pm, o ddydd Llun i ddydd Iau. 8.45am - 1pm dydd Gwener.
- Gellir cyfuno oriau âl cylch chwarae sy'n cael ei hysbysebu ar wefan Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd i'r rhai sy'n chwilio am waith ychwanegol.
- Dull cynnes, gofalgar ac amyneddgar o gefnogi dysgu plant, ynghyd âr gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol â disgyblion a staff.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ac agwedd gydweithredol, gan weithio'n effeithiol fel rhan o dîm er mwyn creu amgylchedd dysgu cynhwysol.
- Profiad o gefnogi plant mewn lleoliad ystafell ddosbarth a pharodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
- Ymrwymiad cryf i ddiogelu a hyrwyddo lles pob disgybl, gan sicrhau eu diogelwch a'u llesiant bob amser.
- Yr hyblygrwydd i addasu i sefyllfaoedd ac anghenion disgyblion sy'n newid, ynghyd âr symbyliad i gymryd camau rhagweithiol pan fo angen.
- Gwydnwch ac ymagwedd ddigynnwrf, gadarnhaol o dan bwysau, ynghyd ag empathi i ddeall ac ymateb i anghenion unigol.
- Sylw i fanylion wrth ddilyn cynlluniau a chofnodi cynnydd, a brwdfrydedd dros helpu pob plentyn i lwyddo.
Cyfeiriwch at y disgrifiad o'r swydd sydd ynghlwm am fanylion mwy penodol am y rôl a'r cyfrifoldebau. Os hoffech wybod mwy am y swydd hon, ffoniwch yr ysgol ar 01646 636340.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.