MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa G02 pwynt 4 - 5 £19,036 - £19,337 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 Dros Dro x 2 Swydd - Ysgol Nant y Groes

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G02 pwynt 4 - 5 £19,036 - £19,337 y flwyddyn

Ysgol Nant y Groes

Ffordd Greenfield , Bae Colwyn LL29 8ET

Pennaeth: Mr Huw Jones

Ffon: (01492) 577010

Yn eisiau erbyn mis Ionawr 2026

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2 DROS DRO x 2 SWYDD

(Contract dros dro hyd at 31/08/2026)

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y dosbarth babanod gyda disgyblion ag anghenion ychwanegol. rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad.

Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi yma.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gany Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglyn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar 01492 577010

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English