MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Cylch Chwarae – Cylch Chwarae Little Puffins, Ysgol y Glannau

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 5 - £26,403 - £27,694 pro rata

Arweinydd Cylch Chwarae - Cylch Chwarae Little Puffins, Ysgol y Glannau

Gradd 5 - £26.403 am 24 awr yr wythnos yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £15,043.79 pro rata.

Ydych chi'n arweinydd cylch chwarae profiadol sy'n chwilio am her newydd gyffrous? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Amdanom ni
Mae Cylch Chwarae Little Puffins, sydd wedi'i leoli yn Ysgol y Glannau, yn dechrau cyfnod o ddatblygiad cyffrous. Ar hyn o bryd rydym yn darparu:
  • Gofal cofleidiol i blant tair oed (1.00pm - 3.30pm)
  • Clwb Ar ôl Ysgol i blant 3-11 oed (3.30pm - 5.45pm)
Rydym hefyd yn falch o fod wedi cael ein dewis yn ddiweddar fel lleoliad newydd i ddarparu lleoedd ar gyfer Dechrau'n Deg pan fydd lle yn caniatáu. Gobeithiwn y bydd y diddordeb yn ein lleoliad yn caniatáu inni ehangu i fod yn glwb gwyliau ysgol y bydd arweinydd y cylch chwarae yn gyfrifol amdano.

Y Rôl
Rydym yn chwilio am arweinydd cylch chwarae angerddol a brwdfrydig i arwain y datblygiad cyffrous hwn. Byddwch yn gyfrifol am redeg y cylch chwarae o ddydd i ddydd, gan sicrhau amgylchedd diogel, gofalgar ac ysgogol sy'n meithrin datblygiad pob plentyn.

Gan weithio'n agos gyda chynorthwywyr cylch chwarae, byddwch yn cynllunio a chyflwyno gweithgareddau sy'n seiliedig ar chwarae ac sy'n hyrwyddo twf cymdeithasol, corfforol, deallusol, creadigol ac emosiynol plant.

Cyfrifoldebau allweddol
  • Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau chwarae sy'n briodol i oedran plant 2 i 4 oed.
  • Asesu, monitro a chofnodi datblygiad plant unigol.
  • Rheoli, cefnogi a datblygu staff eraill y cylch chwarae yn ôl yr angen.
  • Cyfrannu at dwf ac enw da parhaus Cylch Chwarae Little Puffins ac Ysgol y Glannau.
  • Cefnogi ehangu yn y dyfodol, gan gynnwys darpariaeth clwb gwyliau posibl yn ystod gwyliau hanner tymor, y Pasg a'r haf.
Meini prawf hanfodol
  • Cymwysterau: Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu gymhwyster cydnabyddedig cyfwerth.
  • Cymhwyster Lefel 3 mewn gwaith chwarae
  • Cymhwyster Lefel 4 a 5 mewn Gofal Plant neu barodrwydd i'w gwblhau o fewn dwy flynedd
  • Profiad amlwg o weithio am o leiaf dwy flynedd gyda phlant mewn lleoliad cylch chwarae.
  • Sgiliau arwain a rheoli tîm cryf.
  • Y gallu i gofnodi a chyfleu gwybodaeth yn gywir, yn enwedig o ran diogelu ac amddiffyn plant.
  • Sgiliau cynllunio, trefnu a TGCh rhagorol.
  • Gwybodaeth am y Blynyddoedd Cynnar yn y Cwricwlwm i Gymru a phrofiad o gynllunio, arsylwi a gwerthuso.
  • Y gallu i nodi a datrys problemau yn effeithiol ac yn briodol.
  • Yn gyfeillgar, gofalgar, hyblyg, amyneddgar, a hawdd mynd ato.
  • Parodrwydd i fynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi prynhawn / gyda'r nos o bryd i'w gilydd.
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd ymgysylltiad rhieni.
  • Ymrwymiad i ansawdd a chyfle cyfartal.
  • Gweithio yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
Amserlen Dros Dro
  • Dydd Llun i ddydd Iau, 12.30pm - 3.30pm: Gweithio yn y cylch chwarae
  • Dydd Gwener 12.30pm - 3.00pm: Gweithio yn y cylch chwarae
  • Dydd Llun i ddydd Iau, 3.30pm - 5.45pm: Goruchwylio a gweithio yn y Clwb Ar ôl Ysgol
Wrth i'r galw gynyddu ac wrth edrych tua mis Gorffennaf, rydym yn rhagweld ehangu'r ddarpariaeth i gynnwys clybiau gwyliau, yn ystod gwyliau'r haf i ddechrau, ac o bosibl am wythnosau ychwanegol yn ystod gwyliau hanner tymor a'r Pasg.

Swydd tymor penodol yw hon, yn amodol ar argaeledd cyllideb, a disgwylir iddi bara tan 31 Rhagfyr 2026.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.