MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cylch Chwarae – Cylch Chwarae - Ysgol y Glannau

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 3 - £24,796 pro rata

Cynorthwyydd Cylch Chwarae - Cylch Chwarae Little Puffins, Ysgol y Glannau

Gradd 3 - £24,796 am 12.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £7,358.42 pro rata

Ydych chi'n frwd dros gefnogi plant ifanc yn eu blynyddoedd cynnar? Ydych chi'n mwynhau creu amgylchedd diogel, hwyliog a meithringar? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!

Amdanom ni

Mae Cylch Chwarae Little Puffins, sydd wedi'i leoli yn Ysgol y Glannau, yn dechrau cyfnod o ddatblygiad cyffrous. Ar hyn o bryd rydym yn darparu:
  • Gofal cofleidiol i blant tair oed (1.00pm - 3.30pm)
  • Clwb Ar ôl Ysgol i blant 3-11 oed (3.30pm - 5.45pm)
Rydym hefyd yn falch o fod wedi cael ein dewis yn ddiweddar fel lleoliad newydd i ddarparu lleoedd ar gyfer Dechrau'n Deg pan fydd lle yn caniatáu. Gobeithiwn y bydd y diddordeb yn ein lleoliad yn caniatáu inni ehangu i fod yn glwb gwyliau ysgol.

Y Rôl

Rydym yn chwilio am gynorthwyydd cylch chwarae gofalgar a brwdfrydig i ymuno â'n tîm ac i gefnogi arweinydd y cylch chwarae i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel. Byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel ac ysgogol lle gall plant 2 i 4 oed ddysgu a ffynnu trwy chwarae.

Gan weithio'n agos gydag arweinydd y cylch chwarae a staff eraill, byddwch yn cynorthwyo i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau sy'n seiliedig ar chwarae, goruchwylio plant, a sicrhau bod eu hanghenion cyfannol yn cael eu diwallu.

Cyfrifoldebau allweddol
  • Cefnogi arweinydd y cylch chwarae yng ngweithgareddau bob dydd y cylch chwarae.
  • Goruchwylio a chynnwys plant mewn gweithgareddau chwarae, gan sicrhau diogelwch a chynhwysiant.
  • Hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol ac annog annibyniaeth, hunan-barch a rhyngweithio.
  • Cynorthwyo i gynllunio, arsylwi a chadw cofnodion yn ôl y cyfarwyddyd.
  • Cyfathrebu'n effeithiol â phlant, rhieni a chydweithwyr.
  • Dilyn gweithdrefnau diogelu a chadw at yr holl bolisïau.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a chyfarfodydd tîm.
Meini prawf hanfodol
  • Diploma Lefel 2 neu 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant neu gymhwyster cyfatebol.
  • Profiad o weithio gyda phlant yn sector y Blynyddoedd Cynnar neu yn gofalu amdanynt.
  • Gwybodaeth am ddatblygiad plant a gweithdrefnau diogelu lleol.
  • Y gallu i uniaethu'n dda â phlant ac oedolion a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm.
  • Ymrwymiad i gyfrinachedd a phroffesiynoldeb.
  • Gwybodaeth sylfaenol am gymorth cyntaf a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
  • Parodrwydd i weithio yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
Amserlen

Dydd Llun i ddydd Iau

12.30pm - 3.30pm: Gweithio yn y cylch chwarae

Dydd Gwener

1.30pm - 3.00pm: Gweithio yn y cylch chwarae

Wrth i'r galw gynyddu, efallai y bydd cyfleoedd i gefnogi clybiau gwyliau yn ystod yr haf ac yn ystod gwyliau ysgol eraill.

Swydd tymor penodol yw hon, yn amodol ar argaeledd cyllideb, a disgwylir iddi bara tan 31 Rhagfyr 2026.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud âr swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.