MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Bro Idris, Dolgellau,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £51,942 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £51,942 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD
YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU
(Cyfun 3 - 16: 537 o ddisgyblion)
Dyddiad dechrau: 1af Ionawr 2026
Athro/Athrawes Cyfnod Allweddol 2 Blynyddoedd 3 a 4 dros dro dros gyfnod mamolaeth
Swydd dros dro yw hon yn ystod cyfnod mamolaeth un o athrawon yr ysgol. Daw'r swydd i ben ar ddychweliad deiliad y swydd i'w gwaith.
Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Athro/Athrawes Cyfnod Allweddol 2 dros Gyfnod Mamolaeth i Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Mi fydd yr ysgol yn anelu at gyflwyno addysg o'r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o'i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
•Yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o holl ofynion y cwricwlwm Cynradd a/neu Uwchradd ac yn barod i arloesi yn y maes addysgu a dysgu 3 - 16 oed.
•Yn gwbl ymrwymedig i addysg ddwyieithog gyflawn.
Ystyrir ceisiadau hefyd gan:
•Ymgeiswyr sy'n athrawon Cynradd a/neu Uwchradd da ond heb arbenigedd lefel uchel yn y maes.
•Darperir hyfforddiant.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog (£33,731 - £51,942) y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
PWYSIG:- Pecyn cais i'w gael ar wefan Cyngor Gwynedd a gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY
(Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir gelir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru. dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD MAWRTH, 2il o Ragfyr 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person
Mae ffurflen gais am y swydd yma ar gael i'w lawr lwytho ar dudalen Swyddi Dysgu ar wefan Cyngor Gwynedd (www.gwynedd.llyw.cymru)
Manylion Person
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
•Statws athro/athrawes gymwysedig
•Cymhwyster lefel gradd ar gyfer oed cynradd neu uwchradd
DYMUNOL
•Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o:
• D dysgu yn y sector cynradd neu/ac uwchradd
• O sgiliau reolaeth dosbarth da
• C ynnal gwersi effeithiol a diddorol
• D defnyddio adnoddau yn effeithiol
• S icrhau ymddygiad priodol
• S efydlu ac anelu at ddisgwyliadau uchel parhaol
• G ynllunio'n llwyddiannus
• G ydweithredu fel aelod o d îm
DYMUNOL
• P rofiad o ddysgu mewn mwy nag un ysgol gynradd a/neu uwchradd
• T ystiolaeth o safonau addysgu a dysgu cyson dda
SGILIAU A GWYBODAETH BROFFESIYNOL
HANFODOL
•Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol
•Yn deall ystyr darpariaeth gwricwlaidd effeithiol
•Person egniol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
•Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o d îm
•Y gallu i sicrhau dysgu o'r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau
cyrhaeddiad uchel
•Y gallu i ddefnyddio asesiadau'n effeithiol
•Sgiliau reoli ymddygiad disgyblion rhagorol
•Defnydd cymwys a hyderus o DGCh
DYMUNOL
•Y gallu i gyfrannu at lwyddiant a gwelliant ysgol trwy brosesau hunan arfarnu
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
•Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig;
•Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
•Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf;Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol;Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol
DYMUNOL
•Parodrwydd i gyfrannu tuag at fywyd eang yr ysgol
•Yn datblygu diddordebau personol addas oddi fewn i gymuned yr ysgol
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
- Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg - darllen, siarad ac ysgrifennu.
Swydd Ddisgrifiad
Ysgol Bro Idris
SWYDD DDISGRIFIAD ATHRO/ATHRAWES Cam (Ffês) 2
Swydd dros dro dros gyfnod mamolaeth Safle Dolgellau
Teitl y swydd:
Athro / Athrawes Cam (Ffês) 2 - addysgu disgyblion Cyfnod Allweddol 2 Blynyddoedd 3 a 4
Graddfa Cyflog:
Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon (£33,731-£51,942) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau
Atebol i'r Uwch Dim Rheoli drwy'r Pennaeth Cynorthwyol Safle
Dyletswyddau Gwaith:
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa gyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol Pennaeth Strategol yr ysgol o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol.
Mae'r prif ddyletswyddau gwaith sydd ynghlwm wrth y swydd hon fel a ganlyn:
[a] Dysgu yn unol ag anghenion addysgol y disgyblion a roddir dan ei
(g)ofal gan gynnwys gosod a marcio gwaith sydd i'w wneud gan y disgybl ar y safle neu ar safle arall.
[b] Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gweithgareddau a dyletswyddau perthnasol er mwyn integreiddio gwaith y dosbarth a gwaith drwy'r ysgol.
Cyfrifoldebau Penodol:
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
• Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl o dan ei (g)ofal. Tynnu sylw'r Pennaeth Cam (Ff ês) neu'r Pennaeth Safle at unrhyw broblem.
• Cynnig addysg o'r radd flaenaf i'r disgyblion, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau'r unigolion.
1. Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog y disgyblion i gadw'r ystafelloedd dysgu yn l ân ac yn daclus.
2. Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith yn ofalus a thrylwyr. Hefyd, cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
3. Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
4. Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
5. Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i'w (g)ofal hyd eithaf ei (g)allu.
6. Gosod a marcio gwaith y disgyblion yn unol â`r canllawiau ysgol.
• Cynllunio a deall y cyd-destun polisi addysg genedlaethol yng Nghymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, gan gynnwys deall egwyddorion y Cwricwlwm Cymreig a Chwricwlwm am Oes sut y dylid ei ddefnyddio fel sail i'w hymarfer.
• Cynllunio i addysgu a dysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd a chymhwysedd digidol yn draws gwricwlaidd.
• Monitro cynnydd academaidd y disgyblion yn ei (g) ofal gan asesu, cofnodi ac adrodd (ar lafar ac yn ysgrifenedig) ar ymddygiad, ymdrech, cyrhaeddiad a chynnydd pob disgybl. Hysbysu'r Pennaeth Cam (Ff ês) o'r cynnydd neu unrhyw broblem.
• Gynnal disgyblaeth yn unol â'r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol; Monitro presenoldeb disgyblion.
• Paratoi adroddiadau ysgrifenedig i'r rhieni yn unol â pholisïau'r ysgol ac yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth Strategol.
• Darparu adroddiadau achlysurol ar gynnydd disgyblion yn ôl y galw.
• Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a'r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
• Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff yn ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
• Mynychu Nosweithiau Rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol.
• Cyfrannu i'w (d)ddatblygiad personol a phroffesiynol gan fyfyrio, cynnal deialog broffesiynol, mynychu HMS yn ôl y galw a chymryd rhan yn nhrefniadau'r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad
• Cyfrannu'n bwrpasol i ddatblygu Ysgol Bro Idris i fod yn ganolfan sy'n cynrychioli'r arferion a'r safonau proffesiynol uchaf.
• Cydweithio`n effeithiol a pharchus a chyd-gefnogol fel aelod o d îm proffesiynol.
• Cydweithio'n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ff ês) a/neu Penaethiaid Maes i gynllunio, gweithredu ac arfarnu gweithrediad y cynllun datblygu maes neu Ffês.
•n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ff ês) a/neu Penaethiaid Maes i fonitro safonau gwaith y disgyblion mewn llyfrau a ffeiliau yn rheolaidd.
•n effeithiol gyda Penaethiaid Cynorthwyol Cam (Ff ês) a/neu Penaethiaid Maes i fonitro ansawdd yr addysgu a'r dysgu gan hybu addysgu a dysgu effeithiol e.e. triawdau dysgu.
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran datblygu'r iaith Gymraeg yn unol â natur ddwyieithog Cymru, a datblygu'r dimensiwn Cymreig.
• Gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd neu gymorthyddion sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
• Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.
Cysylltiadau:
Mae deilydd y swydd yn ymatebol i Bennaeth Strategol neu i Bennaeth Cynorthwyol Cam (Ffês) am ddyletswyddau a chyfrifoldebau dysgu ac am dasgau dysgu.
Bydd deilydd y swydd yn:-
-rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu a'r addysgu yn yr ysgol yn rheolaidd.
-gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi