MANYLION
Mewngofnodwch i ymgeisio
- Lleoliad: Home based, Cardiff, CF24 5JW
- Pwnc: Arolygiaeth
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Dwyieithog
- Dyddiad Cau: 07 Ionawr, 2026 10:00 y.b
Cyflwyniad
Ymunwch ag Estyn, sef yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, fel Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF) dros Addysg a Hyfforddiant. Mae gennym rolau parhaol ar gael sydd â chyflog o £73,978 - £86,546 y flwyddyn, sy’n cynnig cyfle i gael effaith genedlaethol ar ansawdd addysg a deilliannau dysgwyr ledled Cymru.
Ynglŷn â’r rôl
Mae AEF yn chwarae rôl hollbwysig mewn gwella addysg a hyfforddiant trwy arwain arolygiadau, adrodd ar safonau a rhannu arfer orau.
Mae’r rolau hyn yn cynnwys teithio ledled Cymru, gweithio gartref rhwng arolygiadau ac ymgysylltu’n uniongyrchol ag ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant. Byddwch yn helpu i sicrhau bod arolygu’n deg, wedi’i seilio ar dystiolaeth ac yn canolbwyntio ar ddysgwyr.
Mae’n gyfle unigryw i brofi ac amsugno arfer mewn nifer ac amrywiaeth fawr o ddarparwyr a lleoliadau addysgol eraill; eu hethos, eu cymeriad a’u hymagwedd tuag at y cwricwlwm ac arloesi.
Pan fydd darparwyr yn ei chael hi’n anodd, byddwch yn datblygu mewnwelediad craff i’r heriau a sut gellir gwneud gwelliannau.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Daw ein AEF o ystod eang o gefndiroedd arweinyddiaeth mewn addysg a hyfforddiant. Pa lwybr bynnag y mae’ch gyrfa wedi’i ddilyn hyd yn hyn, bydd gennych hanes cryf o wella ynghyd â phrofiad o arloesi ar lefel strategol.
Byddwch hefyd yn deall y dirwedd addysg a hyfforddiant ehangach a rôl arolygu fel grym ar gyfer gwella.
Er enghraifft, efallai y byddwch:
• yn uwch arweinydd mewn ysgol uwchradd neu’n uwch arweinydd uwchradd mewn ysgol pob oed
• yn uwch arweinydd mewn ysgol gynradd neu’n uwch arweinydd cynradd mewn ysgol pob oed
• yn gyfarwyddwr / cyfarwyddwr cynorthwyol gwasanaeth gwella ysgolion neu’n bartner gwella ysgolion
• yn rheolwr ansawdd neu’n arweinydd mewn darparwr prentisiaethau dysgu yn y gwaith
• yn is-bennaeth neu’n gyfarwyddwr dysgu mewn coleg addysg bellach
• yn uwch arweinydd sy’n gyfrifol am ddarpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon ar draws partneriaeth Sefydliad Addysg Uwch
Ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon, rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir yn y canlynol:
• Addysg Gynradd, lle mae medrau Cymraeg yn ddymunol
• Addysg Uwchradd – Mae dwy swydd ar gael. Mae medrau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn ac yn ddymunol ar gyfer y llall
• Ôl-16/Colegau addysg bellach, lle mae medrau Cymraeg yn hanfodol
• Addysg Gychwynnol Athrawon, lle mae medrau Cymraeg yn ddymunol
Mae statws athro cymwysedig (SAC) yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob un o’r swyddi.
Pam gweithio i Estyn
Yn Estyn, byddwch yn ymuno â sefydliad cydweithredol a chynhwysol sy’n gwerthfawrogi twf proffesiynol a lles. Mae’r buddion yn cynnwys:
• Hawl hael i wyliau – 41 diwrnod i ffwrdd o’r gwaith bob blwyddyn (sy’n cynnwys 31 diwrnod o wyliau blynyddol a 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus/braint (ar sail pro rata ar gyfer y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser).
• Amser lles – Mae arolygwyr yn cronni 6 diwrnod i ffwrdd y flwyddyn ar gyfer amser lles, yn ogystal â gwyliau (ar sail pro rata ar gyfer y rhai sy’n gweithio’n rhan-amser).
• Cymorth ar gyfer eich lles – Rydym hefyd yn darparu rhaglen cymorth i weithwyr, gwiriadau iechyd blynyddol am ddim, pigiadau ffliw tymhorol, cynllun gofal llygaid am ddim a’r gallu i fanteisio ar Gynlluniau Yswiriant Iechyd trwy Ofal Iechyd y Gwasanaeth Sifil.
• Pensiwn rhagorol – Y gallu i fanteisio ar gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn cyfrannu 27.9% o’ch cyflog, sy’n gyfwerth â £21,431 y flwyddyn.
• Cefnogaeth i’ch bywyd teuluol – Polisïau hael sy’n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu.
• Arbedion di-dreth – Y gallu i fanteisio ar gynllunio beicio i’r gwaith.
• Cynigion a gostyngiadau arbennig – Y gallu i fanteisio ar ystod o ostyngiadau a chynigion arbennig trwy Glwb Cymdeithasol y Gwasanaeth Sifil.
Amrywiaeth a chynhwysiant
Yn Estyn, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu amrywiol a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Rydym yn annog yn weithredol geisiadau gan grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a phobl anabl. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a gallwn ddarparu addasiadau rhesymol ar hyd y broses recriwtio.
Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau a phrofiadau bywyd gwahanol, gan gredu bod tîm amrywiol yn arwain at syniadau cryfach, trafodaethau cyfoethocach a deilliannau gwell i ddysgwyr ledled Cymru.
Mwy o wybodaeth
Mae manylion llawn am weithio i ni a gwybodaeth am y rôl a phwy rydym yn chwilio amdanynt i’w gweld yma. Mae arweiniad ar sut i wneud cais i’w weld yma.
Gofynnir i chi lenwi ffurflen gais yn ystod y broses ond, er hwylustod, lawrlwythwch y ffurflen yma a’i lanlwytho yn ystod cam 3 y cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â recriwtio@estyn.llyw.cymru.