MANYLION
- Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
- Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
- Oriau: Rhan amser
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
This job application date has now expired.
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 - Ysgol Gynradd Cefn
Rhondda Cynon Taf
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol) yn Ysgol Gynradd Cefn
32.5 - Tymor Ysgol
Cyflog: Gradd 6 ( £22,129 x 76.82%) + Lwfans Dosbarth Arbennig (£1,347)
Hoffai Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf benodi Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn Ysgol Gynradd Gymunedol Cefn i ddechrau ym mis Medi 2022. Bydd y dosbarth yma ar gyfer hyd at 8 o ddisgyblion rhwng 7 ac 11 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae athro/athrawes a dau Gynorthwyydd Cynnal Dysgu yn gyfrifol am y dosbarth.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol sy'n berthnasol i ddisgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, rhif ffôn 01443 744398.
Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd Gwener (12pm) ar 24/06/2022.
MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.