MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Welshpool,
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Safle Cyn - Ysgol (Dechrau'n Deg) (Tinytots Y Trallwng)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
Cynorthwyydd Safle Cyn - Ysgol (Dechrau'n Deg) (Tinytots Y Trallwng)Swydd-ddisgrifiad
Tinytots yn Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng
Cynorthwy-ydd Cyn-ysgol Dechrau'n Deg Gradd 4 - 18.5 awr
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng am benodi Cynorthwy-ydd Cyn-Ysgol Dechrau'n Deg cefnogol a gofalgar sydd a phrofiad blaenorol o weithio gyda phlant ifanc.
Cynigir y swydd uchod fel contract tymor penodol am flwyddyn yn y lleoliad Dechrau'n Deg a gynhelir, Tinytots. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio dan gyfarwyddyd Arweinydd Tinytots a'r Unigolyn Cyfrifol i ddarparu profiadau chwarae o ansawdd uchel i blant dwy oed. Mae rhywfaint o wybodaeth am y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.
Sylwer bod gofynion Lleiafswm Cenedlaethol o ran cymwysterau ar gyfer y swydd hon. (Gweler y Swydd Ddisgrifiad). Ni fydd ymgeiswyr sy'n cyflwyno cymwysterau nad ydynt yn cyrraedd y lefel hon yn cael eu hystyried.
Mae croeso i ymgeiswyr drafod y swydd gyda'r Pennaeth Mrs. Lorna Tuffin.
E-bost: head@welshpool.powys.sch.uk
Mae ein hysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb yn ein gofal. Mae'r swydd hon yn amodol ar eirdaon boddhaol, DBS manwl a phob proses clirio perthnasol arall.
Dyddiad cau: 03.12.25
Creu rhestr fer: 04.12.25
Cynhelir cyfweliadau: 12.12.25