MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Welshpool,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymorth i Ddysgwyr - Gofal Bugeiliol (Ysgol Eglwys yng Nghymru Y Trallwng)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £30,024 i £32,061 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.56 i £16.61 yr awr
Cymorth i Ddysgwyr - Gofal Bugeiliol (Ysgol Eglwys yng Nghymru Y Trallwng)Swydd-ddisgrifiad
Cymorth i Ddysgwyr - Gofal Bugeiliol Gradd 7
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng
27.5 Awr Contract Cyfnod Penodol tan 31.08.26
Mae'r Llywodraethwyr yn chwilio am gymorth i ddysgwyr sy'n gyfrifol am ofal bugeiliol.
Yn adrodd i'r Pennaeth, ac ar y cyd â staff addysgu, bydd y swydd yn cyfrannu at drefn dda gyffredinol o fewn yr ysgol, gan gynnwys rheoli ymddygiad, a hyrwyddo llesiant a chynnydd
cyffredinol a chyflawniad dysgwyr drwy:
• ddarparu cymorth rheng flaen i ddysgwyr ar faterion bugeiliol
• darparu cymorth presenoldeb, ymddygiadol ac addysgol i ddysgwyr
• darparu cyswllt strategol rhwng yr ysgol ac asiantaethau eraill a rhieni/gofalwyr
Bydd y swydd yn rheoli llwyth achosion o ddysgwyr sydd angen cymorth.
Byddai cymwysterau a phrofiad mewn arferion Thrive, ELSA, TIS a /neu Nurture y DU yn ddymunol.
Sylwer bod gofynion Lleiafswm Cenedlaethol o ran cymwysterau ar gyfer y swydd hon.
(Gweler y Swydd Ddisgrifiad). Ni fydd ymgeiswyr sy'n cyflwyno cymwysterau nad ydynt yn cyrraedd y lefel hon yn cael eu hystyried.
Croesewir trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol drwy apwyntiad ymlaen llaw gyda'r Pennaeth Mrs Lorna Tuffin Ffôn: 01938 538 660
Am ffurflenni cais a manylion y swydd, ffoniwch 01597 826409 (24 awr); neu e-bostiwch recruitment@powys.gov.uk; neu gwnewch gais ar-lein ar www.powys.gov.uk a dilynwch y ddolen 'Swyddi - chwilio ac ymgeisio'.
Dylid cyflwyno ffurflenni cais ar gyfer y swydd wag hon i Gyngor Sir Powys (gweler y swyddi gwag ar Gyngor Sir Powys am fanylion).
Dyddiad cau: 03.12.25
Creu rhestr fer: 04.12.25
Bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal: 12.12.25