MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanidloes,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Blank
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes Astudiaethau Busnes a TGCh (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Blank
Athro/Athrawes Astudiaethau Busnes a TGCh (Ysgol Uwchradd Llanidloes)Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o ysgolion gwledig gorau Cymru, ac yma rydym yn ymfalchïo yn ein cymuned ddysgu lewyrchus, ein hethos tosturiol, a'n staff ymroddedig iawn. Rydym wrth ein bodd yn cynnig cyfle cyffrous i athro Cyfrifiadureg a/neu TGCh ysbrydoledig ddod yn rhan o'n hysgol wych yng Nghanolbarth Cymru hardd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Gofalu'n fawr am lesiant, twf personol, a llwyddiant academaidd pob disgybl.
- Dysgu Astudiaethau Busnes a TGCh gyda hyder a chreadigrwydd hyd at Safon Uwch, gan feithrin chwilfrydedd a chariad gwirioneddol at dechnoleg.
- Bod yn ymarferydd ystafell ddosbarth ysbrydoledig sy'n ysgogi disgyblion i gyflawni rhagoriaeth a chyrraedd eu potensial uchaf.
- Dod ag egni, brwdfrydedd ac arloesedd yn ei ffordd o addysgu, gan gynnal safonau dysgu ac ymgysylltu rhagorol.
- Meithrin cydberthnasau cryf â disgyblion, cydweithwyr a rhieni, gan gydweithio ar fel rhan o dîm cefnogol a blaengar.
- Dangos sgiliau rhagorol o ran trefnu, bod yn hyblyg, yn ogystal ag ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol.
- Cyfrannu'n llwyr at fywyd allgyrsiol yr ysgol, gan gynnig cyfleoedd sy'n ymestyn dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
- Mynd i'r afael â phob her gydag agwedd bositif, creadigrwydd, ac agwedd 'gallu gwneud' ragweithiol.
Byddai'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol. Croesewir ceisiadau'n gynnes gan Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) ac athrawon heb gymhwyso sy'n awyddus i ddechrau gyrfa werth chweil ym myd addysg.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Sul 23ain Tachwedd 2025.
Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio Ddydd Llun 24ain Tachwedd 2025, ac mae'r cyfweliadau wedi'u trefnu ar gyfer Dydd Iau 27ain Tachwedd 2025.
Hoffem i'r ymgeisydd llwyddiannus ymuno â ni cyn gynted â phosibl, ond bydd modd trafod y dyddiad cychwyn gyda'r ymgeisydd priodol.
Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â Mrs Susan Bound, Rheolwr Busnes.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS