MANYLION
  • Lleoliad: Llanfyllin,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Cymraeg (Ysgol Llanfyllin)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro/Athrawes Cymraeg (Ysgol Llanfyllin)
Swydd-ddisgrifiad
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

Hysbyseb Swydd: Athro/Athrawes / Cyfarwyddwr Dysgu - Cymraeg ac Iaithoedd

Swydd: Athro/Athrawes Cymraeg (gyda'r posibilrwydd o arwain Maes Dysgu a Phrofiad)
Lleoliad: Ysgol Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 24 Tachwedd 2025

Mae Ysgol Llanfyllin yn chwilio am athro neu athrawes Cymraeg angerddol, greadigol ac ysbrydoledig i ymuno â'n tîm ymroddedig. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i ysbrydoli dysgwyr a, lle bo'n briodol, arwain datblygiad dysgu ac addysgu o fewn Maes Dysgu a Phrofiad 'Cymraeg ac Iaithoedd'.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Croesawn geisiadau gan athrawon profiadol ac arweinwyr posibl sy'n ymrwymedig i sicrhau safonau uchel ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr. Ceir croeso cynnes i geisiadau amser llawn neu ran-amser.

Wedi'i lleoli mewn ardal wledig brydferth ger ffin Swydd Amwythig, mae Ysgol Llanfyllin yn ysgol bob oed lwyddiannus i ddisgyblion 3 i 18 oed. Rydym yn falch o'n safonau uchel, ein hegwyddor gynhwysol 'Teulu', a'n hymdeimlad cryf o gymuned. Gyda chysylltiadau rhagorol âr Trallwng, Croesoswallt a'r ardaloedd cyfagos, mae'r ysgol yn cynnig cydbwysedd delfrydol rhwng heddwch cefn gwlad a hygyrchedd i gyfleusterau lleol.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn gallu:
• Ysbrydoli a denu dysgwyr ar draws holl gyfnodau'r ysgol bob oed
• Arwain tîm ymroddedig o gydweithwyr yn Maes Dysgu a Phrofiad '
• Ddarparu addysgu o ansawdd uchel ac arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg
• Ffurfio amgylchedd dosbarth cadarnhaol a chynhwysol
• Gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol
• Weithio'n effeithiol fel rhan o dîm cydweithredol a chefnogol

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:
• Cymuned ysgol groesawgar ac arloesol
• Cyfleoedd rhagorol ar gyfer datblygiad proffesiynol
• Amgylchedd dysgu modern a chyfoes
• Lleoliad bendigedig gyda chydbwysedd bywyd a gwaith rhagorol

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol brwdfrydig ac uchelgeisiol sy'n chwilio am her newydd mewn ysgol gefnogol ac ysbrydoledig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01691 648391 neu office@llanfyllin.powys.sch.uk

Mae Ysgol Llanfyllin wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae pob penodiad yn amodol ar wiriad DBS manylach.