MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £19,918 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 2 - Ysgol Brynrefail, Llanrug

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £19,918 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Gyfun 11 - 18 oed, 759 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Ionawr 5ed, 2026

Cymhorthydd Cefnogi Dysgu, Lefel 2

Cytundeb Parhaol

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos.

Cytundeb 39 wythnos, tymor Ysgol a dyddiau Hyfforddiant yn Unig

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig ac egn ïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Gweler y swydd ddisgrifiad yn y pecyn hysbysebu am ragor o fanylion.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS3 pwyntiau 5-6 (sef £19,346 - £19,918) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Mr Dylan Jones, Rhif ffôn: 01286 672381

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno i'r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD.

Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru

Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 9 Y BORE, DYDD LLUN, 24ain O DACHWEDD 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Manylion Person

TTEITL Y SWYDD: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (Lefel 2)

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

• Y gallu i berthnasu'n dda â phlant ac oedolion .

• Gweithio'n adeiladol fel rhan o d îm.

• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau

• Brwdfrydig a hyblyg

• Personoliaeth Ddigynnwrf

• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

• Sgiliau rhif/llythrennedd da.

• NVQ2 ar gyfer Cymorthyddion Addysgu neu gymhwyster cyfwerth, neu yn fodlon ymgymryd â'r cwrs yn dilyn penodiad.

DYMUNOL

• Wedi dilyn hyfforddiant llwybr dysgu i gymorthyddion dysgu - 'Rhaglen Ymsefydlu'

• Hyfforddiant cymorth cyntaf

• Hyfforddiant Amddiffyn Plant

• Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi dysgu, e.e. llythrennedd/ rhifedd

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

• Gweithio gyda phlant o'r oedran priodol neu ofalu amdanynt.

DYMUNOL

• Profiad o weithio gyda grwpiau bychain o blant

• Profiad o waith cynorthwyo mewn dosbarth

• Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

• Deunydd effeithlon o TGaCh

• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da

• Y gallu i sefydlu a chynnal perthynas dda gyda eraill.

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.

Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.

Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Canolradd

Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon e-bost ac adroddiadau byr, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwyddi'r maes gwaith. (Bydd angen gwirio cyn eu hanfon allan).

Swydd Ddisgrifiad

TEITL Y SWYDD: CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU (Lefel 2)

YSTOD CYFLOG: Graddfa Gweithwyr Llywodraeth Leol - GS3 (pwyntiau 5-6 ) 32.5 awr yr wythnos yn ystod y 39 wythnos tymhorau a diwrnodau HMS.

AMODAU GWAITH: Yn unol ag amodau gwaith Cenedlaethol ac atodol lleol Cyngor Gwynedd ar gyfer staff G.P.T. ac Ch. a gweithwyr llaw.

Dyddiau Gwaith: Llun i Gwener.

Oriau Gwaith: 32.5 awr yr wythnos yn ystod tymor ysgol yn unig.

8:30 - 3:30 Dyddiau Llun - Gwener , gyda 30 munud di-d âl i ginio pob dydd.

Rhybudd Gadael: Yn ysgrifenedig mis ymlaen llaw.

YN ATEBOL I: Cyd-gysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - o ran y cefnogi yn gyffredinol.

PWRPAS SWYDD :

Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli yr ysgol.

Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.

Cynorthwyo'r athro i reoli disgyblion o fewn y dosbarth a thu draw.

PRIF DDYLETSWYDDAU
  • Cefnogaeth i Ddisgyblion
  • Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer disgyblion, yn cynnwys rhai gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
  • Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol - yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
  • Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
  • Hybu cynnwys a derbyn pob disgybl.
  • Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
  • Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
  • Dan arweiniad yr athro/awes, darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
  • Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
  • Darparu adborth effeithlon i'r disgyblion mewn perthynas â rhaglenni ac adnabod a gwobrwyo cyflawniad.

Cefnogaeth i'r Athro/Athrawes
  • Darparu adborth manwl a rheolaidd i'r athrawon ar gyflawniad, cynnydd, problemau disgyblion, ayyb.
  • Cysylltu â'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol, trefnus a chefnogol.
  • Cysylltu â'r athro i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
  • Monitro ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu ac ymgymryd â chadw cofnodion disgyblion ar gais.
  • Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes mewn perthynas â chynnydd y disgyblion tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
  • Cymhwyso polisi ysgol mewn perthynas â hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
  • Gweinyddu profion gweithdrefnol a goruchwylio arholiadau.
  • Cyflawni tasgau clerigol a gweinyddol ar gais, e.e. lungopïo, casglu arian, ffeilio, gweinyddu gwaith cwrs, dosbarthu llythyrau i rieni.

Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
  • Ymgymryd â gweithgareddau dysgu/rhaglenni addysgu strwythuredig a chytøn.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, blynyddoedd cynnar, asesu ar gyfer dysgu.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y disgyblion yn y defnydd ohono.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
  • Ymgymryd â rhaglenni sy'n gysylltiedig â strategaethau dysgu lleol, e.e. llythrennedd, rhifedd a TGaCh.
  • Cefnogi'r defnydd o TGaCh yn nysgu'r disgyblion a'u hannibyniaeth wrth ei ddefnyddio.
  • Paratoi, cynnal a defnyddio'r offer a'r adnoddau sy'r rhaglenni addysgu a'r gweithgareddau dysgu cytøn.
  • Cysylltu'n sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gofalwyr fel y cytunwyd gyda'r athro.
  • Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.

Cefnogaeth i'r Ysgol
  • Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd, diogelwch a diogeled, cyfrinachedd a gwarchod data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder wrth unigolyn priodol.
  • Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol, yn cynnwys y Cwricwlwm Cymreig.
  • Gwerthfawrogi a chefnogi rhan proffesiynolwyr eraill.
  • Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chymryd rhan ynddynt ar gais.
  • Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
  • Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am gr ŵp
    o dan oruchwyliaeth yr athro.


Datblygiad Cyfatebol Eraill
  • Yn achlysurol bydd angen ymgymryd â dyletswyddau eraill cyffelyb ar gais y Pennaeth a/neu Cyd-Gysylltydd ADY.

DATBLYGIAD PROFFESIYNOL A HYFFORDDIANT MEWN SWYDD

Mae'r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol pob aelod o'r staff drwy raglen o hyfforddiant mewn swydd.

Bydd hyfforddiant ar gael i'r Cymhorthydd drwy'r dulliau canlynol yn bennaf:
  • mynychu cyrsiau sirol.
  • mynychu cyrsiau mewnol yn yr ysgol.
  • cysgodi a chyd-weithio â staff eraill.
  • mentora gan y Cyd-Gysylltydd ADY.

DYLETSWYDDAU PENODOL ERAILL

Cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac asesiadau risg yn ôl y gofyn.

SYLWER:

Tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.

Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.

Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.

Bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i'r swydd a'r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy'n datblygu cyflwr sy'n anablu.

Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'n gymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi