MANYLION
  • Lleoliad: Ystradgynlais,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif Raddfa
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Technoleg Dylunio (Ysgol Maesydderwen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa

Athro Technoleg Dylunio (Ysgol Maesydderwen)
Swydd-ddisgrifiad
Athro Technoleg Dylunio (Cyfnod Mamolaeth)
Angenrheidiol ar gyfer Mawrth 2026
Cyfle cyffrous i ymuno â'r Adran y Gelf a Thechnoleg a gwneud cyfraniad at y cam nesaf o wella ysgol ac adran flaengar.
Mae Ysgol Maesydderwen yn ardal hardd de Powys, gyda'r dalgylch yn cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Bro'r Sgydau. Wedi'i lleoli'n ddelfrydol yn nhref fach Ystradgynlais, mae'r ysgol o fewn cyrraedd i Gaerdydd, Abertawe a De-orllewin Cymru.
Mae'r Llywodraethwyr yn edrych i benodi Athro/Athrawes Technoleg Dylunio, i ddarparu gwasanaeth mamolaeth ac i ymuno â'n Hadran Gelf a Thechnoleg ymroddedig iawn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn aelod o adran sy'n cefnogi'r Arweinydd Dysgu i godi
canlyniadau i'n holl ddysgwyr. Swydd dros dro mamolaeth yw'r rôl.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n:
• yn athro cymwysedig Technoleg Dylunio;
• dangos yr agwedd y gall ein dysgwyr lwyddo; addysgu gwersi da/ardderchog iawn i ddysgwyr yn gyson; hyderus wrth gynllunio cwricwlwm priodol a heriol; ymrwymedig i safonau uchel ar gyfer dysgwyr a nhw eu hunain; meddu ar y sgiliau i ysgogi ac ennyn diddordeb dysgwyr; meddu ar uchelgais dygn i gyfoethogi bywydau a profiadau dysgu dysgwyr yn Ysgol Maesydderwen; parod i gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol.
Gallwn gynnig i chi:
• ddysgwyr brwdfrydig, hyderus a chyfeillgar; adeilad gwych gydag amgylchedd addysgu trawiadol a thechnoleg o'r radd flaenaf; cefnogaeth a datblygiad rhagorol wedi'u teilwra ar eich cyfer, lle bynnag rydych yn eich gyrfa; cyfle cyffrous i fod wrth wraidd datblygiad Meysydd Dysgu a Phrofiad allweddol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru yn Ysgol Maesydderwen; cyfle i ymuno â thîm hynod gefnogol; ysgol sydd ag ethos cynhwysol i sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd ym mhob gweithgaredd a phrofiad.
Mae'r ysgol wedi cael Arolwg Estyn yn ddiweddar ac o ganlynaid cawsom ein rhol dan Fesurau Arbennig. Rydym bellach yn gweithio'n galed i fynd i'r afael âr argymhellion.
Dyma gyfle go iawn i chi wneud eich marc, ac fel ysgol flaengar gyda mynediad at DPP o ansawdd uchel i bawb, mae cyfleoedd bob amser ar gyfer datblygu gyrfa i gydweithwyr uchelgeisiol ac ymroddedig. Os oes gennych chi'r brwdfrydedd a'r uchelgais i helpu i gefnogi'r Adran Gelf a
Thechnoleg yn ein hysgol fywiog a ffyniannus, yna dyma'r swydd ddelfrydol i chi.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am y rôl uchod neu os hoffech ymweld â ni, mae croeso i chi gysylltu âr ysgol drwy e-bostio ehopkins@maesydderwen-hs.powys.sch.uk. Marciwch
ymholiad FAO Emma Hopkins.
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw canol dydd, Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025. I wneud cais am y rôl lawrlwythwch y ffurflen gais a'i dychwelyd at Emma Hopkins drwy
ehopkins@maesydderwen-hs.powys.sch.uk .